Mae Rhaniadau hunaniaeth a dinesig yn y DU yn ystyried y berthynas rhwng ffurfiau gwahanol ar hunaniaeth (anabledd, rhywioldeb, crefydd) a chyfranogiad gwleidyddol a lles. Mae’n ystyried a oes gallu gwahanol gan grwpiau hunaniaeth wrth arfer hawliau, ac esboniadau posibl ar gyfer unrhyw wahaniaethau.
Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.
Cyfweliad gyda’r Athro Nigel O’Leary, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Nigel O’Leary o Brifysgol Abertawe yn esbonio sut mae ei ymchwil ar hunaniaeth a rhaniadau dinesig yn y DU yn archwilio’r canlyniadau gwahaniaethol ar draws grwpiau ymylol mewn cymdeithas. Mae llawer o’r ymchwil yn canolbwyntio ar dair hunaniaeth allweddol: hunaniaeth grefyddol, hunaniaeth rywiol a’r rheini sydd â salwch neu anabledd cyfyngu tymor hir.