Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr Andrew Price a’r Athrawon Gary Higgs a Mitchel Langford ym Mhrifysgol De Cymru wedi tynnu sylw at amrywiadau daearyddol o ran mynediad at fannau cynnes yng Nghymru.
Mae mannau cynnes yn rhoi cyfle i helpu aelwydydd i geisio lleihau effaith biliau ynni cynyddol yn ystod misoedd y gaeaf ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol a hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol. Mae llawer o’r canolfannau hyn wedi aros ar agor dros fisoedd yr haf gyda’r amcanion hyn mewn golwg. Darparodd Llywodraeth Cymru £1m i awdurdodau lleol ariannu hybiau cynnes o’r fath yn ystod gaeaf 2022/2023.
Er hynny, yn yr astudiaeth yma mae’r tîm yn amlygu’r angen i ystyried amrywiadau yn oriau agor mannau o’r fath mewn perthynas ag argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod dyddiau’r wythnos ac ar benwythnosau, er mwyn deall yr amrywiadau yn y ddarpariaeth o leoedd o’r fath yn ogystal a helpu i werthuso effeithiolrwydd y canolfannau hyn.
Credyd delwedd: Jelena Stanojkovic trwy iStock.