Mae Anghydraddoldeb, colled ddinesig a lles yn defnyddio dulliau arloesol, gan gynnwys arolygon drwy appiau ar symudedd gofodol a chysylltiadau data, i gymharu mesurau hygyrchedd unigol a seiliedig ar lefydd, ac ystyried sut y mae patrymau newidiol colled ac enillion dinesig yn gysylltiedig â mesurau iechyd a lles.

Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.

 

Cyfweliad gyda’r Athro Gary Higgs, Prifysgol De Cymru

Mae’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru yn siarad am rywfaint o’i ymchwil ddiweddaraf ar hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus, ac yn enwedig y rhai y mae COVID wedi effeithio arnynt, fel banciau a mannau gwyrdd. Mae’n egluro fel y mae ei dîm yn canfod bylchau yn y ddarpariaeth ac yn cynhyrchu sylfaen dystiolaeth y gall sefydliadau ei defnyddio i gynllunio darpariaeth gwasanaethau’n fwy effeithiol a lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad.