Ydy ansawdd swyddi’n well neu’n waeth ar ôl y pandemig?


Person sat on sofa using laptop and looking happy

Mewn papur mynediad agored newydd, mae Rhys Davies a’r Athro Alan Felstead yn rhannu ambell gipolwg ar ddata cwis a gasglwyd cyn ac ar ôl Covid-19 i archwilio pa effeithiau tymor byr y mae’r pandemig wedi’u cael ar ansawdd swyddi yn y DU. Mae’r canlyniadau’n dangos bod ansawdd nad yw’n gysylltiedig â thâl wedi gwella, bod gwahaniaethau rhwng swyddi wedi lleihau a bod twf gweithio o bell yn ffactor y tu ôl i’r tueddiadau hyn.

Casglwyd data gan bron i 100,000 o unigolion a gwblhaodd y cwis howgoodismyjob.co.uk. Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar naw agwedd ar ansawdd swyddi heb fod yn gysylltiedig â chyflog. Roedd y rhain yn cynnwys gofynion swyddi, fel i ba raddau y mae’n ofynnol i ymatebwyr ‘barhau i ddysgu pethau newydd’, i ba raddau sy’n rhaid iddynt helpu cydweithwyr i wneud hynny, a’r amlder y mae’n ofynnol iddynt weithio ar ‘gyflymder uchel iawn’ ac ‘i derfynau amser tynn’.

Gofynnwyd hefyd i‘r ymatebwyr am nodweddion o’u gwaith sy’n lliniaru’r pwysau hyn. Roedd y rhain yn cynnwys i ba raddau mae ganddynt reolaeth dros amseroedd dechrau a gorffen; y gallu i gymryd amser i ffwrdd ar fyr rybudd i ddelio â materion personol; lefel y cymorth cymdeithasol a roddir gan reolwyr llinell; y disgresiwn sydd ganddynt dros ba dasgau sydd i’w gwneud a sut; maint y dylanwad sydd ganddynt dros newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae’r gwaith yn cael ei wneud; a’u gobeithion am ddyrchafiad.

Darllenwch y papur.

 

Credyd delwedd: Llun gan Surface ar Unsplash


Share