Y bwlch cyflog anabledd yn y DU: beth yw rôl y sector cyhoeddus?


Close-up of a person's wrists and hands while working on a computer keyboard. They are wearing a medical bracelet.

Er ei fod yn sylweddol mewn sawl gwlad, nid yw’r bwlch cyflog anabledd (DPG) wedi denu llawer o sylw academaidd nac ym myd pholisi yn rhyngwladol, yn enwedig o’i gymharu â nodweddion gwarchodedig eraill, megis rhywedd. Mae’r Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) drafft diweddar a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin 2024 yn awgrymu newid mawr yn y DU yn hyn o beth, gan gynnig estyn y ddyletswydd sydd ar sefydliadau i Adrodd am y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau i anabledd.

Gan ddefnyddio data cyfoes o’r arolwg cartref mwyaf yn y DU, Arolwg y Gweithlu, rydyn ni’n ymchwilio i faint bwlch cyflog anabledd y DU, gan ganolbwyntio ar wahaniaethau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Er gwaethaf gwahaniaethau rhwng y sectorau mewn fframweithiau sefydliadol a deddfwriaethol sy’n ymwneud â chydraddoldeb cyflog, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) 2011 yn y DU, tystiolaeth flaenorol o gyflogau yn cael eu cywasgu yn y sector cyhoeddus a gwahaniaethau rhwng y sectorau o ran arferion cydraddoldeb, mae’r effaith y mae’r sector yn ei chael ar y bwlch wedi cael ei hanwybyddu.

Wrth fynd i’r afael â’r bwlch hwn, rydyn ni wedi dod o hyd i dystiolaeth o fwlch ymhlith gweithwyr sydd fel arall yn debyg o ran nodweddion personol a nodweddion sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys eu hoedran a’u swydd. Rydyn ni’n defnyddio hyn yn ddirprwy ar gyfer anghydraddoldeb o ran gyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd. Er ei bod yn amlwg yn y ddau sector, mae anghydraddoldeb o ran gyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd yn sylweddol llai yn y sector cyhoeddus (4.2% ar gymedr, o’i gymharu â 7.4% yn y sector preifat).

Rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i dystiolaeth ei fod yn cynyddu ymhlith pobl sy’n ennill cyflog uwch yn y sector preifat gan arwain at ‘effaith nenfwd gwydr’, sydd o bosibl yn dangos gwahaniaethau yn y rhwystrau i gael dyrchafiad. Yn hyn o beth, mae ein dadansoddiad yn gyson â’r llenyddiaeth fwy datblygedig ar ryw sy’n tueddu i ddangos bod anghydraddoldeb o ran gyflog yn is yn y sector cyhoeddus. Rydyn ni wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y sector cyhoeddus yn cynnig amddiffyniad cyflog cymharol i weithwyr anabl, yn enwedig ar ben uchaf y dosbarthiad cyflog.

Mewn perthynas â pholisi cyfoes, mae ein tystiolaeth o fwlch sylweddol a pharhaus ac anghydraddoldeb o ran gyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd yn cefnogi galwadau i fonitro a thargedu’r bwlch cenedlaethol, yn enwedig wrth i nifer y bobl ag anableddau gynyddu ymhlith y gweithlu.

Mae’r amrywiad sectorol a nodwyd yn gyson â dylanwad y cyflogwr ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwilio yn y dyfodol i rôl gwahaniaethau mewn arferion cydraddoldeb a chyflog mewn sefydliadau, rhywbeth y mae tryloywder o ran y bwlch yn debygol o hyrwyddo. Mae hefyd yn bwysig ymchwilio i ba raddau y gellir cyffredinoli’r canfyddiadau hyn i gyd-destunau gwledydd eraill neu i fod yn berthnasol i strwythurau a deddfwriaeth benodol y DU, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED).

Darllen yr erthygl lawn.

 

Hawlfraint y Goron yw’r deunydd o’r Arolwg Chwarterol o’r Gweithlu, a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi trefnu ei fod ar gael. Gellir ei gyrchu drwy Archif Ddata y DU. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar yr ymchwil sy’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Menter ar y cyd yw WISERD rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe. Cafodd yr ymchwil y mae’r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â hi ei gwneud drwy Gymdeithas Sifil WISERD – Canolfan Haenu Dinesig ac Atgyweirio Sifil, sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhif y grant: ES/S012435/1).

 

Llun gan MedicAlert UK ar Unsplash


Share