Mae Jen Keating yn Gydymaith Ymchwil o thema Addysg YDG Cymru a Labordy Data Addysg WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru). Mewn blog newydd, mae’n disgrifio dau weithdy a arweiniwyd ganddi ym mis Tachwedd i rieni, gofalwyr, ac addysgwyr ar y ffordd orau o ddefnyddio data cenedlaethol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Cynhaliwyd y gweithdai hyn yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC.
Fy mhrif nod ymchwil yw deall a gwella canlyniadau addysg i blant ag ADY. Rwy’n gweithio ar y prosiectau “Cyfranogiad a Dilyniant Trwy Addysg yng Nghymru” ac “Y Lle Cywir, yr Amser Cywir, y Cymorth Cywir: archwilio darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a deilliannau addysgol yng Nghymru”.
Yn fy ymchwil, rwy’n defnyddio setiau data ar lefel weinyddol a phoblogaeth. Mae hyn yn cynnwys data gweinyddol gan Lywodraeth Cymru ar ddeilliannau addysg disgyblion, megis presenoldeb a chyrhaeddiad, yn ogystal â data ynghylch iechyd plant a gwybodaeth am gartrefi o’r Cyfrifiad.
Fel ymchwilydd, rwy’n wirioneddol angerddol am gynnal ymchwil ar bynciau sy’n bwysig i unigolion sydd â phrofiad bywyd o’r system ADY. O ganlyniad, nod y gweithdai hyn oedd deall blaenoriaethau ymchwil rhieni, gofalwyr ac addysgwyr plant ag ADY.
Fe wnaethom gynnal ddau weithdy: un ar gyfer rhieni a gofalwyr, ac un ar gyfer athrawon ac addysgwyr. Dechreuodd pob gweithdy gyda chyflwyniad byr gennyf fi, yn cyflwyno YDG Cymru a Labordy Data Addysg WISERD, a’r gwaith rydym yn ei wneud. Buom yn trafod beth yw data gweinyddol, sut rydym yn gwneud ein holl ddata yn ddienw i ddiogelu preifatrwydd pawb, a rhai enghreifftiau o brosiectau blaenorol yr ydym wedi gweithio arnynt.
Yna gofynnwyd i’r rhai a oedd yn bresennol nodi pynciau y teimlent y byddai’n bwysig ymchwilio iddynt gan ddefnyddio’r data gweinyddol sydd gennym yn WISERD ac YDG Cymru. Roedd yn wych clywed am yr holl syniadau a drafodwyd gan y mynychwyr a gweld themâu cyffredin yn dod i’r amlwg drwy’r ystafell. Roedd y themâu hyn yn cynnwys ymyrraeth blynyddoedd cynnar, megis sut mae ymweliadau iechyd y blynyddoedd cynnar yn bwydo i gymorth ADY ac oedi wrth asesu a mynediad at gymorth.
Fe fu’r mynychwyr hefyd yn trafod cyrhaeddiad a deilliannau hirdymor plant ag ADY, gan gynnwys canlyniadau cyflogaeth ac iechyd meddwl i blant y tu hwnt i’r ysgol. Fe wnaeth rhoddwyr gofal ac addysgwyr amlygu pwysigrwydd ystyried amgylchedd ehangach y plentyn, gan gynnwys hanes datblygiadol a chymorth teuluol. Yna gofynnwyd i bob grŵp fireinio eu syniadau yn gwestiynau ymchwil. Unwaith eto, roedd yn hynod ddiddorol clywed beth oedd bwysicaf i’r gymuned hon.
Mae cynnal y gweithdai hyn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i ymgysylltu â rhieni, gofalwyr ac addysgwyr sydd â phrofiad bywyd o gefnogi plant ag ADY. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl fynychwyr am roi o’u hamser a’u harbenigedd i gymryd rhan. Bydd y syniadau a rannwyd yn y gweithdai hyn yn bwydo i mewn i ymchwil yn y dyfodol yn Labordy Addysg WISERD.
Cyhoeddwyd y blogbost hwn yn wreiddiol ar wefan ADR.