Mae WISERD yn falch i hysbysu fod y Cymdeithasegydd Diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont o Brifysgol Harvard, yn ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yng Nghaerdydd ar 24-25ain Mawrth 2025, fel rhan o’i Hathraw Gwadd Leverhulme.
Mae’r Athro Lamont yn cael ei chydnabod a’i chanmol yn rhyngwladol am ei gwaith ar foesoldeb, ffiniau grwpiau, ac anghydraddoldeb. Mae hi wedi mynd i’r afael â phynciau fel urddas, parch, stigma, hiliaeth, a sut rydym yn gwerthuso gwerth cymdeithasol ar draws cymdeithasau. Astudiodd gyda Pierre Bourdieu ac eraill ym Mharis yn gynnar yn yr wythdegau, a daeth i’r amlwg yn gyflym fel arloeswr yn yr astudiaeth o gymdeithaseg ddiwylliannol a chymharol, gan helpu i ddiffinio’r meysydd hyn fel yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Mwy o wybodaeth o’i gwefan yma.
Bydd yr Athro Lamont yn rhoi sgwrs ar noswaith y 24 ain Fawrth 2025 yn Ystafelloedd Pwyllgor Morgannwg a Gweithdy fore trannoeth y 25 ain Mawrth, hefyd yn yr Ystafelloedd Pwyllgor.
Defnyddiwch y dudalen digwyddiad hon i gofrestru ar gyfer y sgwrs gyda’r nos ar 25 Mawrth 2025.
Global Dignity and “Seeing Others: Political, Environmental and Work-Based Recognition Compared”
Bydd Michèle Lamont yn trafod ei llyfr “Seeing Others: How Recognition Works and How It Can Heal a Divided World” ac ymchwil gydweithredol barhaus i weld a yw gweithwyr ifanc Americanaidd a Phrydeinig yn y “ddwy Fanceinion” yn chwilio am gydnabyddiaeth trwy wleidyddiaeth, a sut; sut mae pobl frodorol yng Nghanada a Micronesia yn ceisio cydnabyddiaeth trwy gyfiawnder amgylcheddol a swyddi; a’r her o geisio cydnabyddiaeth lle mae’n amhosibl ei chael.
Mwy o wybodaeth ac agenda i ddilyn yn fuan.
Cysylltwch a wiserd.events@cardiff.ac.uk am fwy o wybodaeth.