Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 – mae cyflwyniad haniaethol bellach ar agor


Welsh flag in a castle-shaped sandcastle on a beach with sea and hills in background.

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Thema’r gynhadledd yw ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o raggaredd a pholareiddio’.

Mae’r thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yn rhoi sylw i bryderon cyffredinol ynghylch rôl cymdeithas sifil mewn cyfnod o anfodlonrwydd a newid cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae’n amlygu’r sylw cynyddol sy’n cael ei roi i’r ffordd y mae sefydliadau cymdeithas sifil, y sector preifat ac asiantaethau’r llywodraeth yn cydweithio, ac mae pwyslais ar weithio mewn partneriaeth yn dod yn fwyfwy amlwg mewn polisïau. Yng Nghymru, mae hyn i’w weld mewn deddfau megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac mae tueddiadau tebyg hefyd i’w gweld mewn polisïau yn y DU ac Ewrop.

Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle gwerthfawr i’r rhai sy’n gweithio yn y sector academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ddod at ei gilydd a thrafod ymchwil o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae gennyn ni ddiddordeb arbennig mewn cyfraniadau sy’n ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Cyfleoedd a heriau i ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol, gan gynnwys arferion sy’n perthyn i ddeialog (polisi) a meithrin cymuned
  • Rhagolygon a gwersi ar gyfer llywodraethu cydweithredol
  • Mathau o wyddoniaeth dinasyddion a’u rolau posibl
  • Cyfiawnder cymdeithasol a phontio teg, gan gynnwys iechyd, nwyddau amgylcheddol a lles economaidd
  • Mynediad i waith a chyflogaeth deg/annheg, gan gynnwys profiad ohono/ohoni
  • Cymunedau a ymyleiddiwyd a lleisiau sy’n dod i’r amlwg
  • Lle democratiaeth gydgynghorol a/neu lais democrataidd dadleuol
  • Ymatebion cymdeithas sifil i ansicrwydd a pholareiddio
  • Rôl technoleg mewn cymryd rhan ac ymgysylltu, gan gynnwys ei dylanwad ar y pethau hynny

Rydyn ni hefyd yn croesawu papurau sy’n berthnasol i themâu cymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth – sy’n ymwneud â dinasyddion a/neu gymdeithas sifil – sydd ddim yn dod o dan yr is-themâu uchod. Mae croeso i chi gyflwyno papurau unigol neu gynigion ar gyfer sesiynau thema gyda hyd at bedwar panelwr.

Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael cynigion gan ymchwilwyr ôl-raddedig, myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd ar gyfer y sesiynau Ymchwilwyr Newydd ar 30 Mehefin. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer themâu, gweithdai neu bynciau i’w trafod, gan gynnwys datblygiad gyrfaol a thwf proffesiynol.

Canllawiau cyflwyno

  • Rhaid defnyddio’r ffurflen dempled ynghlwm ffurflen dempled ynghlwm ar gyfer cyflwyno crynodebau. Dylid cyflwyno pob cynnig neu syniad ar wahân.
  • Mae modd cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu yn Saesneg.
  • Bydd yr holl gyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan Bwyllgor Cynhadledd WISERD a’u hystyried yn ôl eu perthnasedd, y galw, anghenion o ran datblygiad proffesiynol a’r amseru. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion.
  • Os cewch chi eich derbyn yn siaradwr, bydd angen i chi gofrestru’n gynrychiolydd yn y ffordd arferol a chadw eich lle yn ystod y cyfnod pan fyddwch chi’n gallu gwneud hynny’n gynnar (byddwn ni’n rhoi gwybod pryd y gallwch chi gadw eich lle).

Mae angen i chi gyflwyno eich crynodebau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 erbyn 9am Dydd Gwener 28 Mawrth.


Share