Tystiolaeth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio Gartref yn y DU


Illustration of people working in different locations, at desk, on sofa, etc.

Mae’r Athro Alan Felstead wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Weithio Gartref yn seiliedig ar ei ymchwil flaenorol ar weithio gartref, y mae rhywfaint ohoni wedi’i chyhoeddi gan WISERD. Mae hyn yn dilyn gwahoddiad yr Athro Felstead i roi tystiolaeth lafar i sesiwn gyntaf y Pwyllgor ddechrau mis Mawrth.

Mae tystiolaeth ysgrifenedig yr Athro Felstead yn pwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio gwahanol dermau i wahaniaethu rhwng gweithwyr ar sail faint mae eu bywydau personol a’u gwaith yn gorgyffwrdd, yr heriau a’r cyfleoedd i weithwyr a chyflogwyr, y bylchau yn ein gwybodaeth, a goblygiadau ei ymchwil i bolisi. Mae’n tynnu ar gorpws o ymchwil sy’n ymestyn yn ôl i ganol y 1990au, gan gynnwys canlyniadau’r cwis ansawdd swyddi a chanlyniadau diweddar Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024.

Mae’r olaf yn dangos, am y tro cyntaf ym Mhrydain, pa fath o fannau yn y cartref sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith cyflogedig. Yn ôl y dystiolaeth hon, dim ond 45% sydd â swyddfa yn y cartref. Mae’r gweddill yn gorfod gwneud y tro â bwrdd y gegin, y soffa neu gornel ystafell. Mae’r cynnydd mewn gweithio gartref ers 2017 a’r gostyngiad mewn gweithleoedd parhaol megis swyddfeydd neu ffatrïoedd yn ddarganfyddiad nodedig ond disgwyliedig arall. Fodd bynnag, mae maint y newid wedi bod yn ddramatig. Cododd y nifer sy’n gweithio gartref o 3% yn 2001 i 13% yn 2024, a chododd y nifer sy’n rhannu eu hamser rhwng y cartref a gweithle arall yn sydyn hefyd o 5% i 21% dros y cyfnod hwn.

Mae’r canfyddiadau hyn yn tanlinellu natur hirdymor y newid yn y lleoliad gwaith. Er enghraifft, dechreuon ni weld cynnydd mewn gweithio hybrid yn 2006, ymhell cyn i’r term gael ei ddefnyddio i ddisgrifio trefniant gwaith sy’n cael ei drafod yn aml. Gallwch chi ddarllen rhagor yn adroddiad diweddaraf yr Athro Felstead, Is the Office Dying?, a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024 yn San Steffan heddiw.


Rhannu