Canolfan Gynadleddau Medrus
Cyfeiriad: Prifysgol Aberystwyth, Penbryn, Penglais, SY23 3BY
Mae Canolfan Gynadleddau Medrus ar yr y llawr cyntaf ym Mhenbryn ar gampws Penglais.
Mewn Car
Mae Prifysgol Aberystwyth yng nghanol harddwch arfordir gorllewinol Cymru ar yr A487 ac ar ddiwedd yr A44. Mae campws y Brifysgol ym mhen gogleddol Aberystwyth oddi ar Ffordd Penglais (A487).
Mae nifer o feysydd parcio ar y campws i’r staff, y myfyrwyr a deiliaid trwydded. Mae maes parcio i ymwelwyr yng nghefn y campws ger Canolfan y Celfyddydau. Dyma faes parcio talu ac arddangos ond mae am ddim i ddeiliaid y Bathodyn Glas. Mae lleoedd parcio’r Bathodyn Glas y tu allan i gryn nifer o adeiladau o amgylch y campws.
Ar Fws
Y safle bws agosaf yw arhosfan y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r safle bws hwn tua 160m o’r brif dderbynfa. Mae’r safle bws hwn yn cael ei wasanaethu gan lwybrau’r 302, 512, TrawsCymru T2, X28 ac YP8. Mae safle bws arall tua 100m o adeilad y dderbynfa sy’n cael ei wasanaethu gan National Express.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd y Brifysgol ar y bws cliciwch yma.
Ar y Trên
Gorsaf Aberystwyth yw’r orsaf drenau agosaf.
Mae Gorsaf Aberystwyth tua 1.4km o’r Brifysgol ar droed. Mae llwybrau bysiau 302, TrawsCymru T2 ac X28 yn cysylltu’r orsaf drenau â champws y Brifysgol. Mae’r orsaf drenau hon yn cael ei gwasanaethu gan Drenau Arriva Cymru a Rheilffordd Cwm Rheidol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd y Brifysgol ar y trên cliciwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a thocynnau cenedlaethol, a gwybodaeth am orsaf Aberystwyth cliciwch yma.
Cyngor Parcio
Rydyn ni wedi cael gwybod y dylai fod yn haws parcio gan nad yw Cynhadledd Flynyddol WISERD yn cael ei chynnal yn ystod y tymor.
Os byddwch chi’n aros yn y llety, gallwch chi gael trwydded barcio wrth gyrraedd a’i harddangos ar eich dangosfwrdd. Rydyn ni’n eich annog i adael eich ceir yn y llety a cherdded i ddigwyddiadau’r dydd, ond peidiwch â phoeni os nad yw hyn yn bosibl.
I’r rheini a fydd yn bresennol yn ystod y dydd, gallwch argraffu’r drwydded barcio sydd ynghlwm yma. Cewch argraffu’r rhain ymlaen llaw, a bydd gennym rai i’w dosbarthu wrth gofrestru hefyd, beth bynnag sy’n gweithio orau i chi.
Mae’r drwydded barcio yn golygu y gallwch chi barcio mewn unrhyw leoedd parcio i’r staff neu’r myfyrwyr heblaw am y lleoedd arhosiad byr 2 awr.
Os oes unrhyw anghenion o ran hygyrchedd, rhowch wybod inni. Yn dilyn hyn, bydd modd i’r Brifysgol gyfeirio pobl sy’n cyrraedd at y lleoedd hygyrch agosaf neu gadw lleoedd neilltuedig ychwanegol iddyn nhw.
Llety Pantycelyn
Cyfeiriad: Pantycelyn, Penglais, Aberystwyth SY23 3BX
Mae Pantycelyn o fewn dau funud o Ganolfan y Celfyddydau a’r Ganolfan Gynadleddau ar droed.
Canolfan y Celfyddydau:
Cyfeiriad: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DE
Y Ganolfan Ddeialog:
Cyfeiriad: Y Ganolfan Ddelweddu, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3BF