Bydd y prosiect hwn yn archwilio effeithiolrwydd polisïau caffael cymdeithasol wrth gefnogi gwaith teg a mentrau sy’n cefnogi grwpiau agored i niwed. Bydd yr ymchwil yn edrych ar y ffordd y mae caffael yn gweithio’n ymarferol ac yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n deillio o ddeddfwriaeth caffael cymdeithasol newydd Cymru wrth gefnogi cyflawni gwerth cymdeithasol a gwaith teg. Bydd yr ymchwil hefyd yn edrych ar yr heriau i gyflogwyr wrth gyflawni gwerth cymdeithasol a’r hyn y gellir ei ddysgu o fentrau blaenorol â’r nod o gefnogi pobl i oresgyn rhwystrau.