Dylai system sgorio newydd ar gyfer arolygiadau o gartrefi gofal gael eu hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth am argaeledd lleol


Senior man explaining to his young daughter with help of digital tablet.

Mae’r sector cartrefi gofal o dan bwysau yn dilyn pandemig COVID-19 ac effaith Brexit o ran prinder staff, yn enwedig y gweithlu nyrsio cofrestredig. Ar ben hynny, mae’r sector o dan bwysau ariannol tymor hwy ac yn wynebu pryderon parhaus ynghylch recriwtio staff, yn enwedig yn dilyn y newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r polisi mewnfudo. 

O ganlyniad i gyflwyno system sgorio newydd ar gyfer arolygiadau o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru o fis Ebrill 2025, mae cryn sylw wedi bod ar argaeledd gwasanaethau gofal o ansawdd da “i helpu pobl gael y gofal gorau posibl”. Yn y sector cartrefi gofal preswyl, nod y system hon yw helpu unigolion a theuluoedd ddod i benderfyniad wrth ddewis cartref gofal ymhlith y rhai sydd ar gael yn eu hardal.  

Yn ein papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn yr International Journal of Care and Caring, amlygwyd newidiadau yn y patrymau daearyddol o ran cael mynediad at welyau preswyl a nyrsio cofrestredig mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn yng Nghymru. Roedd y cyfnod o dan sylw yn cynnwys y cyfnodau clo, o fis Mawrth 2019 i fis Mai 2022. Mae’r ymchwil hon yn awgrymu, er bydd gwybodaeth am ansawdd gofal cartrefi o’r fath yn ddefnyddiol wrth helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, mae angen ystyried sgoriau ochr yn ochr â faint o ddewis sydd ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru. 

Mae ein hymchwil yn dangos y gallai’r prinder dewis mewn rhai rhanbarthau arwain at orfod mynd i leoliadau y tu allan i’r ardal a chryn bellter o gartref y teulu. Gall y sefyllfa fod yn waeth os oes angen gofal nyrsio uwch ar y rhai ag anghenion iechyd mwy cymhleth a bod angen gofal nyrsio/dementia arbenigol arnynt. 

Yn ôl adroddiad diweddar i ddirnad y farchnad, nodwyd y caewyd 40 o gartrefi gofal i’r henoed yng Nghymru rhwng 2020 a 2023, a dim ond pedwar cartref newydd a gafodd eu hagor. Mae’n bosibl y bydd y pryderon parhaus sy’n gysylltiedig â’r sector, fel y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol ac yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn arwain at ostyngiad pellach yn nifer y lleoedd sydd ar gael os bydd cartrefi’n cau. Gallai hyn gael goblygiadau o bwys ar batrwm gofodol y ddarpariaeth gan orfodi preswylwyr i chwilio ymhellach i ffwrdd am leoedd.  

Drwy fapio lleoliadau cartrefi gofal a nifer y gwelyau sydd ar gael ym mhob safle, ochr yn ochr â’r galw posibl amdanynt, mae ein hymchwil wedi mesur faint o ddewis sydd ar gael, a’r pellteroedd i deithio i gael gafael ar leoedd gofal. Drwy ymchwilio i fynediad ar sail patrymau daearyddol, mae hyn wedi nodi’r ardaloedd hynny o Gymru a gafodd eu heffeithio fwyaf gan gartrefi gofal i oedolion yn cau, a/neu ostyngiadau yn nifer y gwelyau, yn ystod y cyfnod hwn.  

Mae’n bosibl bod y sefyllfa yng Nghymru hyd yn oed yn fwy difrifol o ystyried natur y sector sy’n tueddu i fod yn seiliedig ar gartrefi gofal preswyl llai, ac sy’n aml yn eiddo i deuluoedd. Mewn amgylchiadau o’r fath, er bod gwerth i ddata am ansawdd y ddarpariaeth, mae’n bosibl mai’r prinder lleoedd yn lleol fydd yn peri’r pryderon mwyaf i rai teuluoedd, beth bynnag fo ansawdd y gofal.   

Felly, mae hyn yn pwysleisio unwaith eto bod angen dulliau daearyddol i fonitro’n ofalus faint o leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd neu a fydd ar gael mewn cartrefi gofal. Dylai’r rhain fod ar raddfeydd lleol manwl, ochr yn ochr â sgoriau arolygiadau, ac yn rhan o becyn cyffredinol o adnoddau gwybodaeth am ddarparu gofal.

 

Credyd delwedd: Daniel de la Hoz trwy iStock.


Rhannu