Hoffai WISERD wahodd pob un ohonoch i’r Seminar Amser Cinio ddiweddaraf gan WISERD, a gyflwynir gan Niamh Breslin (Myfyriwr PhD Prifysgol De Cymru / Aelod Cyswllt WISERD). Cynhelir y cyflwyniad ddydd Gwener 12 Rhagfyr, 12:00 – 13:00. Bydd y seminar hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, felly mae croeso ichi ymuno â ni hyd yn oed os na allwch wneud hynny wyneb yn wyneb. Os hoffech chi ymuno, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi holi am gynnal eich seminar amser cinio eich hun, cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.

Mae Niamh Breslin yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Geo-ofodol ym Mhrifysgol De Cymru ac yn ddiweddar mae wedi dechrau ar ei hymchwil PhD – gan ganolbwyntio ar berllannau traddodiadol a ffrwythau treftadaeth yng Nghymru. Yn y sgwrs hon bydd hi’n esbonio’r ysbrydoliaeth a’r angen dros yr ymchwil, yn ogystal â’r llwybr ymlaen. Mae perllannau traddodiadol ac afalau treftadaeth Gymreig yn asedau naturiol a diwylliannol hollbwysig sydd wedi cael eu colli mewn rhannau helaeth o’r wlad yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif a’r 21ain. Nod yr ymchwil hon yw cyfrannu at eu cadwraeth drwy greu setiau data gofodol cyfredol ac archwilio rôl barhaus yr asedau hyn wrth gyfrannu at fioamrywiaeth, gwydnwch yr hinsawdd a chadw hunaniaeth gymunedol a diwylliannol yng Nghymru. Dyma ymchwil amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â daearyddiaeth ddynol, y gwyddorau cymdeithasol, gwyddoniaeth geo-ofodol a chadwraeth amgylcheddol.