Ymunwch â ni ar gyfer Seminar Amser Cinio diweddaraf WISERD. Louis Bromfield (Prifysgol Abertawe) fydd yn cyflwyno’r seminar hon. Cynhelir y cyflwyniad Chwefror 18, 12:00-13:00. Cynhelir y seminar hon wyneb yn wyneb (yn adeilad sbarc|spark) ac ar-lein, felly mae croeso i chi ymuno â ni o bell os na allwch chi fod yno’n bersonol. Os hoffech chi ymuno, holi unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.
Mae Horse Race Politics yn wefan rhagweld ar ffurf gêm, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer y mhrosiect PhD o dan yr enw Fantasy Forecast yn 2023. Fel rhan o gais Astudiaeth Etholiad Cymru gwerth £1.2m a enillwyd gan yr Athro Matthew Wall, Dr Anwen Elias a Dr Bettina Petersohn, dyrannwyd cyllid i gynhyrchu fersiwn newydd o’r wefan. Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y diwydiant, Focus Games, cwmni dylunio gemau sydd wedi’i leoli yn Glasgow, rydyn ni bellach yn gadael y cam datblygu ac yn symud ymlaen i’r cyfnod profi cyn ei lansio’n gyhoeddus ym mis Chwefror, gyda’r etholiadau ym mis Mai. Nod y seminar amser cinio hwn yw rhoi trosolwg o ddyluniad y wefan newydd a chodi ymwybyddiaeth o’r platfform o fewn y rhwydwaith.