Poole, J., Davies, R. a Huxley, K. (2026) A ddylwn i aros neu a ddylwn i fynd? Archwilio dewisiadau prifysgol myfyrwyr Cymreig Caerdydd: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru).

Mae’r Cip ar Ddata hwn yn archwilio nodweddion myfyrwyr prifysgol sy’n gadael Cymru at ddibenion addysg ac yn eu cymharu â’r rhai sy’n aros. Mae gan y myfyrwyr hynny sy’n gadael Cymru i fynychu prifysgol lefelau uwch o gyrhaeddiad addysgol na’r rhai sy’n aros. Mae’r iaith Gymraeg, amddifadedd a chefndir dosbarth cymdeithasol hefyd yn chwarae rhan, gyda siaradwyr Cymraeg a’r rhai o gefndiroedd economaidd gymdeithasol tlotach yn fwy tebygol o aros yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r effeithiau hyn yn fach o’u cymharu â phwysigrwydd cyrhaeddiad academaidd wrth ddewis ble i astudio.