Mae erthygl Newyddion y BBC a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos sut mae data a gasglwyd drwy arolygon sgrinio Llamau Upstream Cymru wedi helpu i adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o brofi digartrefedd a’u cysylltu â chymorth cynnar, gan newid bywydau ac atal argyfyngau cyn iddynt ddigwydd.
Mae cefnogi’r gwaith hwn wedi bod yn bartneriaeth hirhoedlog rhwng Llamau ac YDG Cymru. Mae Llamau yn elusen sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n cynorthwyo pobl ifanc, menywod a phlant sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n profi digartrefedd. Ers nifer o flynyddoedd, mae YDG Cymru, trwy ei rhaglen Tai a Digartrefedd, wedi gweithio’n agos gyda’r elusen i ddeall a dadansoddi data Upstream yn well, gan helpu i gryfhau prosesau casglu data a gwella’r sail dystiolaeth ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Yn benodol, mae Dr Ian Thomas, Arweinydd Academaidd corff gwaith Tai a Digartrefedd YDG Cymru, sydd wedi’i leoli yn WISERD, wedi cefnogi Llamau i ddatblygu dulliau sy’n galluogi dadansoddiad mwy cadarn a mewnwelediadau dyfnach i’r ffactorau sy’n rhoi pobl ifanc mewn perygl o brofi digartrefedd.
Dwododd Dr Ian Thomas: “Ganwyd Upstream Cymru allan o awydd i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Ers hynny, mae wedi tyfu i fod yn fudiad ledled y DU i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac mae bellach yn cael ei gyflawni ar draws y pedair gwlad. Mae stori Emily yn nodyn atgoffa pwerus o’r gwahaniaeth y gall cymorth ac ymyrraeth gynnar ei wneud ym mywydau pobl ifanc. Wrth i Upstream barhau i adeiladu momentwm, mae gennym gyfle i gynorthwyo rhagor o bobl ifanc i ffynnu a lleihau’r risg o ddigartrefedd i genedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r cydweithrediad hwn wedi cyfrannu at esblygiad dulliau casglu a dadansoddi data Upstream Cymru, gan gynhyrchu tystiolaeth newydd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, datgysylltiad addysgol a grwpiau o bobl ifanc sy’n wynebu risg uwch. Mae’r gwaith wedi helpu i sicrhau nid yn unig y caiff data eu casglu’n effeithiol ond eu defnyddio i lywio camau gweithredu, gan gynorthwyo ymarferwyr a llunwyr polisi i ymyrryd yn gynharach a gwella canlyniadau i bobl ifanc agored i niwed ledled Cymru.
Darllenwch fwy ar Newyddion y BBC a gwrando ar BBC Radio Wales (1:20 ar gyfer crynodeb o’r newyddion, 1:00:11 i glywed gan Yvonne Connolly, Cyfarwyddwr Gweithredol Llamau a 1:08:50 i glywed gan Emily Mapley am ei phrofiad gyda’r arolwg).
Os oes gennych ddiddordeb yn y maes ymchwil hwn, ystyriwch ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Tai a Digartrefedd Cymru WISERD. Mae’r rhwydwaith yn helpu i ddod â’r ymchwil bwysig ar dai a digartrefedd sy’n cael ei wneud gan wahanol sectorau a sefydliadau at ei gilydd fel y gellir rhannu, cryfhau a defnyddio tystiolaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae YDG Cymru yn uno arbenigwyr ym mhob maes o adran Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd gydag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Mae’r technegau dadansoddi data arloesol a’r rhagoriaeth ymchwil a ddatblygwyd, ynghyd â’r Cronfa Ddata SAIL byd enwog, yn caniatáu cyflwyno ymchwil gadarn, diogel ac addysgiadol.
Credyd delwedd: Georgijevic trwy iStock.