Mae tîm Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS) wedi cyflwyno ei argymhelliad ar yr hyn y mae’n credu y dylai fod yn brif flaenoriaeth i’r Pwyllgor Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y Seithfed Senedd. Bydd darparu’r safbwyntiau hyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddaraf yn helpu i lywio cynllunio strategol Senedd Cymru a’i rhaglen waith at y dyfodol.
Yn ei ymateb, mae tîm yr astudiaeth yn argymell bod y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliadau i dri maes:
- Effaith deallusrwydd artiffisial (DA) cynhyrchiol mewn ysgolion
- Tegwch a dim gwahaniaethu yn yr ysgol
- Absenoldebau ysgol
Mae’r argymhellion hyn wedi’u tynnu o ymchwil ac arbenigedd tîm WMCS yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r WMCS yn astudiaeth hydredol flynyddol wedi’i chynllunio i olrhain cynnydd plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn dilyn carfannau o ysgolion ledled Cymru ac yn gofyn cwestiynau am eu profiadau o’r ysgol yn ogystal â’u safbwyntiau ar faterion cyfoes.
Dyma a ddywedodd Dr Rhian Barrance, Cyfarwyddwr WMCS:
“Mae ein hastudiaeth yn dangos tystiolaeth gref yn y tri maes hyn. Mae absenoldebau ysgol, hiliaeth ac aflonyddu rhywiol yn yr ysgol yn bryderon hirsefydlog yng Nghymru ac mae ein canlyniadau’n dangos eu bod yn parhau i fod yn broblemus, er gwaethaf y mentrau i fynd i’r afael â nhw.”
Ychwanegodd fod yr astudiaeth wedi dangos rhai tueddiadau sy’n destun pryder o ran DA Cynhyrchiol:
“Mae gofyn i ni gynnal adolygiad ar frys ar rôl DA Cynhyrchiol mewn ysgolion. Mae cryn dipyn o drafodaeth wedi bod ynglŷn â photensial DA Cynhyrchiol i gau’r bwlch anfantais, er enghraifft, ond mae ein hymchwil yn dangos bod ganddo’r potensial i waethygu’r broblem. Mae’r sector cyfrwng Cymraeg hefyd yn wynebu heriau penodol – ac fe ddaeth i’r amlwg bod disgyblion cyfrwng Cymraeg yn fwy negyddol ar y cyfan ynglŷn â DA Cynhyrchiol.”
Darllenwch yr ymateb llawn i’r ymgynghoriad.