Hoffai WISERD eich gwahodd i’r Seminar Amser Cinio diweddaraf, a gyflwynir gan Jemma Bridgeman (Prifysgol Caerdydd). Cynhelir y cyflwyniad ar 9 Chwefror, 12:00 – 13:00. Bydd y seminar yn cael ei gynnal ar-lein. Os hoffech chi ymuno, gofyn unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.   

Mae caffael sy’n gymdeithasol gyfrifol yn cael ei hyrwyddo fel ffordd o gyflawni dyfodol tecach a mwy cynaliadwy yng Nghymru. Ac eto mae gwerth cymdeithasol yn parhau i fod yn destun dadl, gyda gweithrediad anghyson a chyfleoedd cyfyngedig i gymunedau ddylanwadu ar flaenoriaethau. Mae’r seminar hon yn edrych ar sut mae polisi caffael Cymru yn diffinio gwerth cymdeithasol a sut mae’r diffiniadau hyn yn newid ar draws cylch oes y prosiect adeiladu. 

Gan dynnu ar gysyniad Foucault o gelfyddyd llywodraethu a dull ‘Sut y caiff y broblem ei chynrychioli?’ Bacchi, mae’r astudiaeth yn dadansoddi deddfwriaeth, polisi a chanllawiau caffael Cymru ochr yn ochr â 24 o gyfweliadau ag arweinwyr y diwydiant adeiladu, ymarferwyr gwerth cymdeithasol a sefydliadau cymdeithas sifil. 

Mae’r canfyddiadau’n dangos cefnogaeth eang i ddefnyddio caffael i fynd i’r afael â thlodi, anfantais a mynediad anghyfartal at gyflogaeth a hyfforddiant. Fodd bynnag, wrth i uchelgeisiau polisi symud i dendro a chyflawni, mae blaenoriaethau a pherthnasoedd cymunedol yn aml yn cael eu lleihau i weithgareddau y gellir eu pennu, eu cyfrif a’u monitro. Mae’r cyfrifoldeb yn symud tuag at gontractwyr, cadwyni cyflenwi ac ymarferwyr, er gwaethaf eu dylanwad cyfyngedig dros benderfyniadau a wnaed yn gynharach. 

Mae’r seminar yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ymarfer gwerth cymdeithasol. Mae’n dadlau bod prosesau caffael yn gwneud mwy na chyflawni ymrwymiadau polisi. Maent yn dylanwadu ar ba flaenoriaethau sy’n bwysig, pwy sy’n cymryd cyfrifoldeb a beth y gellir ei gydnabod fel gwerth cymdeithasol, gydag effaith ar gyfranogiad, atebolrwydd a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sy’n wynebu rhwystrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.