Hoffai WISERD eich gwahodd i’r Seminar Amser Cinio diweddaraf, a gyflwynir gan Meng Le Zhang (CASCADE). Cynhelir y cyflwyniad ar 9 Rhagfyr, 12:00 – 13:00. 

Cynhelir y seminar hon ar-lein ac wyneb yn wyneb yn SBARC yn ystafell 6.38. Nodwch fod capasiti cyfyngedig yn yr ystafell felly rhowch wybod i ni os hoffech fynychu wyneb yn wyneb gan y bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.  

Gall ymyriadau blynyddoedd cynnar wella iechyd, datblygiad a chyfleoedd bywyd plant o bosibl. Yn benodol, gall ymyrraeth blynyddoedd cynnar wella parodrwydd at yr ysgol a lleddfu anghydraddoldebau mewn datblygiad plentyndod cynnar (Michael Marmot et al. 2010). Fodd bynnag, nid oes fawr o dystiolaeth achosol gadarn ynghylch effaith rhaglenni blynyddoedd cynnar ar raddfa fawr. 

Mae’r seminar hon yn cyflwyno canlyniadau diweddaraf ein hastudiaeth i fesur effaith rhaglen Dechrau’n Deg Cymru. Mae gwasanaethau Dechrau’n Deg ar gael i bob teulu sydd â phlant dan 4 oed sy’n byw yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r hawliau Dechrau’n Deg craidd yn cynnwys gofal plant am ddim, gwell ymweliadau iechyd, cymorth rhianta a chymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar. Rydym yn defnyddio data gweinyddol ar dros 50,000 o blant a lled-arbrawf unigryw gan ddefnyddio rheolau cyllid ehangu Dechrau’n Deg yn 2012 i amcangyfrif effaith. Rydym yn canolbwyntio ar effaith y rhaglen ar ddatblygiad plant pan ddechreuant yn y dosbarth derbyn a darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) drwy gydol y cyfnod sylfaen. 

Os hoffech chi ymuno, gofyn unrhyw gwestiynau, neu wneud ymholiadau ynglŷn â chynnal eich seminar amser cinio eich hun; cysylltwch â wiserd.events@caerdydd.ac.uk.