Datganoli a lobïo ym maes lles anifeiliaid: archwilio barn ymgyrchwyr y gymdeithas sifil


Senedd

Fel rhan o gyfres o flogiau ar ein hymchwil ar weithrediaeth cymdeithas sifil a hawliau lles anifeiliaid, dyma rannu rhai canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg ar effaith datganoli yn y DU. Canfyddiad allweddol o’n cyfres o gyfweliadau manwl gydag ymgyrchwyr sy’n cynrychioli sefydliadau cymdeithas sifil yw eu rhwystredigaeth gyda San Steffan a safbwyntiau cadarnhaol yn gyffredinol o’r cyfleoedd i ymgysylltu a lobïo seneddwyr yng Nghymru a’r Alban.

Wrth siarad am San Steffan, roedd y cyfwelai hwn yn adlewyrchu’r consensws cyffredinol: “Yn bendant, dyw’r llywodraeth ddim yn gallu blaenoriaethu unrhyw beth uwchlaw Brexit [a thu hwnt] mwyach. Ac felly, rwy’n credu mai’r broblem fwyaf sydd gennym ni fwy na thebyg yw bod Brexit yn amsugno’r ocsigen o unrhyw beth sydd ddim yn Brexit“.

Yn gysylltiedig â hyn, mae ymgyrchwyr cymdeithas sifil wedi mynegi eu dicter a’u rhwystredigaeth gyda phenderfyniad y llywodraeth Geidwadol ym mis Mehefin eleni i dynnu’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn ôl. Roedd hyn yn mynd i gyflawni addunedau a nodwyd ym maniffesto’r Blaid Geidwadol yn 2019 ar gyfer gwell gwarchodaeth i anifeiliaid sy’n cael eu cadw, eu mewnforio a’u hallforio o’r DU – gan gynnwys rhoi diwedd ar gaethiwed didrwydded primatiaid ac allforio anifeiliaid byw i’w lladd a’u tewychu.

Mae sefydliadau cymdeithas sifil hefyd yn ystyried bod y newid cyflym mewn prif weinidogion ac anwadalrwydd gwleidyddol yn broblem allweddol. Fel y nododd y cyfwelai hwn: “Mae’r Alban ychydig yn fwy sefydlog [yn wleidyddol na San Steffan]. A dyna pam rydyn ni wedi cael mwy o lwyddiant wrth gael [enillion polisi] … [er enghraifft] cyflwynwyd rheoliad newydd ar gyfer achub [cŵn]… oherwydd eu bod yn gweithio i amserlen eithaf rheolaidd o etholiadau, a’i bod  ychydig yn fwy sefydlog. Mae’n weinyddiaeth ddatganoledig… [sy’n] teimlo’n well ac yn fwy effeithlon”.

Yn yr un modd, soniodd y cyfwelai hwn am y gwahaniaeth rhwng Caerdydd a Chaeredin ar y naill law, a San Steffan ar y llall: “Rwy’n credu gan fod rhywfaint o elfennau o les anifeiliaid wedi’u datganoli, y gall fod yn haws delio â’r peth. Rydych chi’n adnabod y llywodraethau datganoledig. Rwy’n credu ei bod bob amser yn anoddach delio gyda Llywodraeth y DU. Maen nhw’n eithaf da am oedi neu gau pethau i lawr.”

Roedd hon yn farn a rannwyd gan sawl cyfwelai, gan gynnwys y rheolwr hwn: “Rwy’n credu ei bod lawer yn haws ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig a’r seneddau datganoledig, maen nhw’n llawer mwy agored ac yn llawer mwy democrataidd. Felly, rydyn ni’n eistedd ar grwpiau trawsbleidiol yng Nghymru a’r Alban, ac wedi cael llwyddiant wrth ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban yn gymharol hawdd, felly’r hyn rwy’n dweud yw mai nhw gysylltodd â ni i roi adborth ac i’n hysbysu am lansio ymgynghoriad cyhoeddus, oedd yn dipyn o syndod… mewn cymhariaeth â Llywodraeth y DU, i mi mae’n teimlo’n eu bod yn ymddiried llawer mwy mewn sefydliadau [cymdeithas sifil]”.

Cyfeiriodd ein cyfweleion hefyd at fanteision strwythurau a sefydliadau gwahanol y llywodraethu datganoledig yng Nghymru a’r Alban. Er enghraifft, cyfeiriodd nifer at waith Comisiwn Lles Anifeiliaid Llywodraeth yr Alban. Ac yng Nghymru, tynnodd cyfweleion sylw at Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru. Mae hwn yn rhwydwaith annibynnol a sefydlwyd yn 2006, ac sy’n ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae cydweithio fel hyn yn parhau i lunio polisi, fel yn achos Cod Ymarfer Cymru ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid.

Fel y nododd y cyfwelai hwn: “Y manteision eraill sydd gennym ni yw bod gennym ni Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, [a thrwy hyn…] mae gennym ni rwydwaith sy’n hygyrch i elusennau llai… ac mae hynny’n golygu bod yna fframwaith y gallan nhw gymryd rhan ynddo os ydyn nhw’n dymuno”.

Datgelodd ein hastudiaeth hefyd bwysigrwydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae hon yn nodwedd unigryw mewn llywodraethu datganoledig sydd wedi’i chynllunio i lunio polisi a deddfu yng Nghymru yn seiliedig ar ofyniad statudol ar gyfer cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol. Fel y dywed y cyfwelai: “yna, wrth gwrs, mae’r cysylltiad uniongyrchol rhwng y trydydd sector a’r rhwymedigaeth gyfreithiol i weinidog [Llywodraeth Cymru] gwrdd â’r trydydd sector a chaiff lles anifeiliaid ei gynrychioli drwy Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru.”

Mewn ffyrdd ymarferol ac academaidd, mae’r canfyddiadau hyn yn sylweddol. Maen nhw’n dangos sut mae lobïo dros les anifeiliaid yn y DU heddiw’n cyd-fynd â theori symudiadau cymdeithasol clasurol. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd yr hyn a elwir yn “strwythurau cyfle gwleidyddol“. Dyma’r strwythurau a’r ffactorau eraill sy’n caniatáu i sefydliadau cymdeithas sifil bwyso eu cynrychiolydd – neu hawliadau polisi ar y llywodraeth.

Maen nhw hefyd yn cadarnhau gwerth y llenyddiaeth academaidd ar neo-sefydliadoliaeth, llywodraethu rhwydwaith a chlymbleidiau eiriolaeth. Yn gryno, mae’r rhain yn dangos i ni sut mae cynllun a gweithrediad sefydliadau gwleidyddol a rhwydweithiau polisi yn siapio’r broses bolisi. Yn ei dro, mae hyn yn arwydd o werth a phwysigrwydd datganoli i eiriolaeth cymdeithas sifil dros les anifeiliaid yng Nghymru a’r Alban.

Fel y byddwn yn archwilio mewn blog yn y dyfodol, mae hyn yn arwain at “diriogaethu” hawliau lles anifeiliaid (h.y. cyfreithiau a pholisïau unigryw yng Nghymru, yr Alban a Lloegr – sy’n cyfleu hawliau ac amddiffyniadau cyferbyniol). O safbwynt y DU, mae hefyd yn cynnig y potensial i godi safon arferion lles anifeiliaid trwy drosglwyddo polisi. Dyma pryd y defnyddir enillion (ar ffurf deddfau a pholisïau newydd) mewn un genedl i ymgyrchu dros ddiwygiadau tebyg mewn mannau eraill.

 

Darllenwch y blog blaenorol yma: Newid agweddau’r cyhoedd tuag at les anifeiliaid? Gwaith ymchwil newydd yn archwilio barn ymgyrchwyr y gymdeithas sifil

 

Cyfweliadau ymchwil gan Kathleen Job.

Credyd llun: Marian o Pixabay.


Rhannu