Rob French sy’n arwain thema ymchwil Addysg YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae Rob yn disgrifio sut y bydd croestoriad data addysg ac iechyd plant yn cael ei archwilio mewn rhifyn arbennig newydd o International Journal of Population Data Science.
Mae cysylltu data iechyd ac addysg plant yn ein galluogi i archwilio cyd-ddibyniaeth y ddau faes polisi hollbwysig hyn sy’n effeithio ar ddemograffeg sy’n agored i niwed.
Mae ymchwilwyr YDG sy’n defnyddio data iechyd ac addysg cysylltiedig o Gymru (fi fy hun), yr Alban (Dr Michael Fleming), Lloegr (Yr Athro Katie Harron), a Gogledd Iwerddon (Dr Erin Early) wedi bod yn cydweithio i ddatrys rhai o’r heriau cyffredin ledled y DU. Yn ddiweddar, rydym wedi mabwysiadu dull mwy holgar, gan ystyried sut y gallwn ymestyn y cydweithredu hwn i genhedloedd y tu hwnt i’r DU.
Ym mis Medi, daethom ag ymchwilwyr ynghyd gan ddefnyddio data iechyd ac addysg plant cysylltiedig o 14 gwlad i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol. Mae’r partneriaethau hyn yn hanfodol, gan eu bod yn caniatáu inni fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil yn fwy cadarn, gan elwa ar samplau mwy a’r gallu i groeswirio mesurau. Yn gyffredinol, mae metrigau iechyd yn cael eu mesur yn gyson ar draws gwledydd. Fodd bynnag, mae mesurau addysgol – yn enwedig cyrhaeddiad addysgol – wedi’u llunio’n fwy cymdeithasol, felly mae dadansoddi’r maes hwn yn elwa llawer iawn ar gymariaethau ar draws systemau gwahanol. Hefyd, pan fo gwahaniaethau mewn polisi yn bodoli rhwng gwledydd, neu pan fo newidiadau polisi yn digwydd dros amser, gallwn drosoli’r amrywiadau hyn i gael amcangyfrifon mwy dibynadwy o’u heffeithiau ar ganlyniadau plant.
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad rhifyn arbennig o’r International Journal of Population Data Science, yr unig gyfnodolyn sy’n ymwneud yn benodol â’r maes Gwyddor Data Poblogaeth, sy’n canolbwyntio ar y potensial ar gyfer cydweithredu rhyngwladol gan ddefnyddio data iechyd ac addysg plant cysylltiedig. Mae’r tîm golygyddol yn cynnwys cynrychiolwyr o bartneriaeth YDG y DU, ynghyd â chydweithwyr o Norwy, Sweden, Denmarc, y Ffindir, Canada, Awstralia, Seland Newydd, a’r Unol Daleithiau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at yr alwad ffocws hon, cysylltwch â’r tîm am ragor o wybodaeth.
Cyhoeddwyd y blogbost hwn yn wreiddiol ar wefan ADR.