O Dŷ’r Arglwyddi i Senedd y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau?


House of Lords Chamber

Ar 4 Gorffennaf, adroddwyd ar wefan newyddion Nation.Cymru bod Anas Sarwar, arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, ac aelod o Senedd yr Alban, wedi galw am Senedd newydd o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i gymryd lle Tŷ’r Arglwyddi. Wrth siarad â’r Gymdeithas Fabian yn San Steffan, dadleuodd Anas Sarwar: ‘nad oes lle i Dŷ’r Arglwyddi, yn ei ffurf bresennol, fel sefydliad yng ngwleidyddiaeth yr 21ain ganrif’ a’i bod yn annerbyniol i siambr anetholedig fod yn rhan o ddeddfwrfa’r Deyrnas Unedig. Argymhellodd y dylai Senedd gymryd lle Tŷ’r Arglwyddi yn cynnwys aelodau a etholir yn uniongyrchol gyda mandad i gynrychioli eu cenedl neu ranbarth.

Rwyf i’n cytuno ag Anas Sarwar ac yn wir fe awgrymais i hyn mewn erthygl fer ar ‘Devolution: the end or the beginning?’ a gyhoeddwyd bron 25 mlynedd yn ôl gan University of Nottingham Magazine (Rhan 3, 1997). Roedd hyn yng nghyd-destun adduned y Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, i foderneiddio gwleidyddiaeth Prydain, drwy ddatganoli grym, agor llywodraeth ac ehangu hawliau dynol. Fe’i hysgrifennwyd mewn ymgais i esbonio materion yn ymwneud â datganoli oedd yn berthnasol i Gymru a’r Alban i fy nghydweithwyr dryslyd. Eglurais er ei fod yn ymddangos yn angof, bod cysylltiadau gwleidyddol ymhlith cenhedloedd y Deyrnas Unedig wedi cael eu hystyried unwaith o’r blaen.

Ym mis Ebrill 1918, dan bwysau anawsterau milwrol difrifol yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r angen i ymestyn consgripsiwn milwrol i Iwerddon, rhoddodd llywodraeth Lloyd George ystyriaeth ddifrifol i ddatrysiad a fyddai’n sicrhau bod Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban yn cael seneddau ‘Ymreolaeth’, gyda senedd ‘Ffederal’ yn gyfrifol am faterion cyffredin, gan gynnwys rhai imperialaidd y Deyrnas Unedig ar y pryd. Oherwydd amgylchiadau oedd yn newid yn gyflym, gan gynnwys gwrthdaro arfog yn Iwerddon, methodd y polisi, gan arwain at rannu’r ynys a chreu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, a ddaeth yn Weriniaeth yn ddiweddarach.

Dros ganrif yn ddiweddarach, mae Iwerddon yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mae problem Gogledd Iwerddon yn dal heb ei datrys, tra bo gan Gymru a’r Alban ‘setliadau’ datganoli sy’n dal i gael eu herio gan y Blaid Geidwadol gyda’i pholisi o’r hyn a elwir yn Unoliaetholdeb ‘cyhyrog’ Prydeinig, gan ysgogi galwadau am newid cyfansoddiadol sylfaenol, gan gynnwys refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, trafodaeth am refferendwm tebyg yng Nghymru a’r posibilrwydd o refferendwm yng Ngogledd Iwerddon ar uno â Gweriniaeth Iwerddon.

Yn 1997 holais: ‘Ydy Tŷ’r Arglwyddi diwygiedig Tony Blair yn debygol o fod yn senedd ‘Ffederal’ i’r Deyrnas Unedig?’ Yn achos Tŷ’r Arglwyddi yn sicr, dyw’r hyn sydd wedi newid yn ddim mwy na chosmetig. Gobeithio y bydd y Blaid Lafur yn yr Alban, yma yng Nghymru, ac yn Lloegr yn mynd â chynnig Anas Sarwar ymhellach, yn wir yn llawer pellach. Byddai’n gyfraniad sylfaenol i’r diwygio cyfansoddiadol y mae gwir ei angen yn y Deyrnas Unedig os ydym ni am sicrhau lles economaidd a chymdeithasol ac undod cydweithredol ei phobloedd. Mae hyn yn galw am system o lywodraethu democrataidd ystyrlon y mae unigolion a chymunedau’n ymddiried ynddi. Mae’n gofyn am ddatblygu a chynnal datganoli yn erbyn unrhyw dresmasu gan San Steffan a Whitehall, pwy bynnag sydd mewn grym yno. Mae angen ailystyried rolau Ysgrifenyddion Gwladol yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yng ngoleuni hyn.

Gallai fod rôl bwysig i Gyngor Prydain-Iwerddon, sydd ar hyn o bryd yn fforwm drafod, yma, o ystyried y gallai Gogledd Iwerddon ddilyn y llwybr at Iwerddon Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd cysylltiadau cydweithredol ymhlith pobl Ynysoedd Prydain yn parhau i fod o bwysigrwydd sylfaenol, pa bynnag opsiynau cyfansoddiadol a ddewisir. Gan gydnabod hyn, mae angen dechrau newydd i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig sy’n radical o ran bwriad, ac a ddylai gynnwys Senedd y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn lle Tŷ’r Arglwyddi. O ystyried y nifer o bobl sy’n ceisio llefydd ac anrhydeddau yng ngwleidyddiaeth Prydain, dwyf i ddim yn optimistaidd. Mae annibyniaeth yn parhau i fod yn opsiwn.


Rhannu