Arolwg rhyngwladol yn canfod bod plant mewn ardaloedd trefol yng Nghymru’n nodi gostyngiad yn eu lles cyffredinol yn ystod y pandemig


Young homeless man sleeping on the street

Does dim gwadu bod yr aflonyddwch i fywyd bob dydd a achoswyd gan bandemig y coronafeirws wedi cael dylanwad dwys ar les plant, gydag amryw o sefydliadau rhyngwladol (e.e. WHO, UNESCO, WFP, UNICEF) yn gofyn bod mwy yn cael ei wneud i gynorthwyo plant i ymdopi â hyn, er mwyn osgoi canlyniadau negyddol hirdymor.

Yng Nghymru, mae data o Arolwg Rhyngwladol Lles Plant (ISCWeB) 2021 –  Bydoedd Plant, arolwg ymchwil rhyngwladol ar les goddrychol plant – wedi canfod bod lefelau lles goddrychol cyffredinol ymhlith plant, yn benodol mewn ardaloedd trefol, wedi dirywio i bob golwg ers 2018.
 

Pa ddata ddefnyddion ni?

Cyn y pandemig, roedd adroddiadau’r DU eisoes yn nodi bod lefelau lles plant yn dirywio a dim ond cyflymu mae hyn wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, gyda  1/4 miliwn o blant yn dweud nad oedden nhw’n ymdopi’n dda â newidiadau yn ystod y pandemig.

Er mwyn deall a gwerthuso dylanwad y pandemig ar les, rhaid cynnwys mesuriadau lles cyn y pandemig, lle bo’r rheiny ar gael. O ganlyniad, mae data o’r arolygon Bydoedd Plant yn cynnig cyfle i astudio newidiadau yn lefel oddrychol gyffredinol lles yng Nghymru mewn dau grŵp oedran (plant 10 oed mewn ysgolion cynradd a phlant 12 oed mewn ysgolion uwchradd) cyn ac yn ystod y pandemig.

Gellir cymharu data o’r don cyn y pandemig yn 2018 â data a gasglwyd yn ystod y pandemig, gan eu bod yn defnyddio’r un metrigau i asesu newidiadau dros amser. Er na chyfranogodd pob ysgol a gymerodd ran yn y don gyntaf yn yr ail don a vice versa, cafodd y dangosyddion a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn eu cynnwys yn y ddau holiadur.
 

Beth wnaethon ni?

Gan ddefnyddio data o donnau arolwg Bydoedd Plant yn 2018 a 2021, aseswyd lefel lles goddrychol drwy ofyn i blant am foddhad cyffredinol â’u bywyd, a sawl agwedd benodol ar eu bywydau hefyd (e.e. defnydd o’u hamser, eu rhyddid, eu hiechyd) cyn ac yn ystod y pandemig, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac mewn ardaloedd trefol a gwledig.
 

Beth ddysgon ni?

Ers 2018, bu gostyngiad o ran boddhad â’u bywyd yn gyffredinol yn y ddau grŵp oedran (plant 10 a 12 oed) ymhlith plant o ysgolion mewn ardaloedd trefol. Ar ben hynny, i’r grŵp oedran hŷn, p’un ai roedden nhw’n mynychu ysgolion trefol neu ysgolion gwledig, dirywiodd y lefelau lles a fynegwyd ganddynt yn ystod pandemig y coronafeirws (Ffigur 1).

Yn bwysig, ni welwyd dirywiad sylweddol mewn lefelau lles ymhlith yr holl blant. Er enghraifft, gwelwyd cynnydd bach iawn mewn gwirionedd yn lefelau boddhad bywyd plant ysgol gynradd mewn ardaloedd gwledig, ac i blant ysgol uwchradd mewn ardaloedd gwledig, dim ond ychydig y dirywiodd lefelau boddhad bywyd.

Mae hyn yn awgrymu mai yn ardaloedd trefol Cymru yr oedd effaith y pandemig ar les plant yn fwyaf amlwg. Gallai hyn fod oherwydd effaith llymach y cyfyngiadau neu effeithiau mwy diriaethol y pandemig mewn ardaloedd trefol, neu lefelau uwch o wytnwch mewn ardaloedd gwledig.

 

Figure 1 - graph showing satisfaction with life as a whole

 

Ffigur 1 – Boddhad disgyblion â’u bywyd yn ei gyfanrwydd – cymedr (SD): cyn ac yn ystod y pandemig coronafeirws

 

Gwelwyd patrymau tebyg o ran hapusrwydd plant gydag agweddau amrywiol ar eu bywydau – pan brofwyd am arwyddocâd ystadegol (t-test), roedd y gwahaniaethau’n sylweddol yn y disgyblion mewn ardaloedd trefol. Yn gyffredinol, roedd plant o ardaloedd trefol, waeth beth fo’u hoedran, yn dangos lleihad yn y boddhad a fynegwyd ganddynt mewn meysydd penodol yn eu bywydau. At ei gilydd, roedd y mesur o les a welodd y dirywiad mwyaf yn ymwneud â’u hedrychiad, oedd ar y cyfan yn is mewn blant o ardaloedd trefol nag ardaloedd gwledig cyn y pandemig (Ffigur 2), a sut roedd y plant yn treulio’u hamser.

Fel gyda boddhad bywyd yn gyffredinol, gwellodd mesurau eraill o les goddrychol mewn plant o ardaloedd gwledig rhwng 2018 a 2021. Yn wir, gwellodd boddhad gydag iechyd a gyda’r hyn a allai ddigwydd yn ddiweddarach mewn bywyd ymhlith plant ysgol uwchradd o ardaloedd gwledig.

Dylid nodi ambell gafeat gyda’r canlyniadau hyn. Yn gyntaf, astudiaeth drawstoriadol yw hon, felly nid yw’n olrhain yr un disgyblion dros amser, ond yn hytrach ddwy garfan ar wahân. Er i’r arolwg gael ei ddosbarthu i’r un ysgolion yn y don gyntaf, ychydig o ysgolion yn unig a gymerodd ran yn y ddwy don. Yn olaf, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig (e.e. lefelau amrywiol o gyswllt gwe), mae’r sampl yn yr ail don yn llai na’r cyntaf (691 disgybl o 20 ysgol o’i gymharu â 2,600 o ddisgyblion o 54 ysgol).

Figure 2 - pupils' satisfaction with various aspects of their life

 

Ffigur 2 – Boddhad disgyblion ag amrywiol agweddau ar eu bywyd – cymedr (SD): cyn ac yn ystod y pandemig coronafeirws

 

Beth nesaf?

Bydd y blog nesaf yn y gyfres yn canolbwyntio ar foddhad disgyblion gydag agweddau penodol pellach ar eu bywyd (e.e. teulu, ysgol, ffrindiau) cyn ac yn ystod y pandemig coronafeirws. Ar ben hynny, gan fod data ar gyfer yr holl wledydd a gymerodd ran yn yr arolwg bellach ar gael, cam nesaf yr ymchwil fydd gweld sut mae newidiadau o ran lles goddrychol plant Cymru yn ystod y pandemig yn cymharu â gofynion plant mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

 

Ymwadiad

Daw’r data a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn o Bydoedd Plant: Arolwg rhyngwladol o fywydau a lles plant (www.isciweb.org). Barn yr awdur a fynegir yma. Nid dyma farn ISCWeB o reidrwydd.

 

Credyd delwedd: bodnarchuk drwy iStock.


Rhannu