Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol (‘mewn trefn’) ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Defnyddir MALlC gan y llywodraeth a sefydliadau eraill i dargedu gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol. Er enghraifft, fel rhan o’i raglen i gynyddu mynediad i addysg uwch, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn blaenoriaethu pobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd ymhlith y 40% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Fodd bynnag, gall defnyddio mesurau amddifadedd ar sail ardal i dargedu adnoddau sydd a’r bwriad o fynd i’r afael ag anfantais ar lefel aelwydydd neu unigolion fod yn aneffeithlon. Nid yw pob aelwyd sy’n profi amddifadedd lluosog yn byw mewn ardaloedd difreintiedig; a gall rhai ardaloedd difreintiedig gynnwys cyfran sylweddol o aelwydydd llai difreintiedig. Mae’r blogbost hwn yn adrodd ar orgyffwrdd profiadau seiliedig ar ardal (WIMD) ac aelwydydd o amddifadedd lluosog gan ddefnyddio Data Agored.
Roedd mesur o amddifadedd lluosog ar lefel aelwydydd, a grëwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio data Cyfrifiad 2011, yn gysylltiedig â’r MALlC a gynhaliwyd yn 2014. Mae amddifadedd lluosog aelwydydd yn gysylltiedig â phedwar maes – cyflogaeth, addysg, iechyd, tai – a chyfeirir at aelwydydd â dwy nodwedd amddifadedd neu fwy fel rhai sydd ag ‘amddifadedd lluosog’ yn y blogbost hwn. Caiff MALlC ei drin naill ai fel rhestr o ardaloedd bach, o’r lleiaf i’r mwyaf difreintiedig, neu wedi’u grwpio’n ddegraddau.
Canfuwyd bod gan ardaloedd oedd yn gymharol fwy difreintiedig o ran eu safle MALlC gyfran uwch o aelwydydd oedd yn profi amddifadedd lluosog. O’r aelwydydd a restrwyd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, roedd gan 46% amddifadedd lluosog, o’u cymharu â 15% o aelwydydd yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd cyfran yr aelwydydd difreintiedig ym mhob un o’r pedwar parth, h.y. yn profi’r math mwyaf eithafol o amddifadedd lluosog ar lefel aelwydydd, yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig — 1.2% o aelwydydd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â 0.1% yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae adnoddau yn aml yn cael eu targedu at yr ardaloedd mwyaf difreintiedig fel y’i nodir gan MALlC. Er bod y diffiniad o ‘mwyaf difreintiedig’ yn amrywio, anaml y bydd yn cynnwys ardaloedd sy’n is na’r 50% mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn golygu y byddai 36% o’r aelwydydd ag amddifadedd lluosog yng Nghymru, sy’n cyfateb i tua 135,000 o aelwydydd, yn cael eu hepgor o wasanaethau a dargedir yn defnyddio’r MALlC.
Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod rhywfaint o gysylltiad rhwng amddifadedd lluosog ar lefel ardal ac ar lefel aelwydydd. Fodd bynnag, drwy dargedu aelwydydd ar sail eu hardal breswyl, ceir potensial i achosi mwy fyth o anfantais i’r rhai sydd eisoes dan anfantais. Ac ni chaiff y broblem ei lleddfu drwy newid y lefel o fesur amddifadedd lluosog o ardaloedd i aelwydydd.
Mae cronni data ar gartrefi unigol i’w nodi a’u targedu ar gyfer ymyrraeth yn broblem foesegol: mae’n cynyddu ofnau’r cyhoedd ynghylch ‘y brawd mawr’ a gwyliadwriaeth gynyddol mewn cymdeithas. Felly byddai’n rhaid i fesur o amddifadedd cartrefi fod yn gyfanredol ar lefel ofodol uwch fel na fyddai modd adnabod unrhyw aelwyd unigol yn y data. Fodd bynnag, wrth greu data cyfanredol, mae’r risg o eithrio cartrefi nad ydynt mewn ardaloedd difreintiedig yn dod yn broblem unwaith eto.
Gellid cael cyfaddawd rhwng gwell cywirdeb wrth dargedu ymyriadau’n seiliedig ar ddwyster yr amddifadedd a wynebir gan aelwydydd/pobl mewn ardal, a’r camsyniad o ragdybio bod pawb mewn ardal benodol yn rhannu’r un lefel o amddifadedd. Mae angen rhagor o ymchwil i ystyried y cyfaddawd hwn, ac i amcangyfrif y gwelliannau o ran targedu gwasanaethau y mae mesurau amddifadedd lluosog ar lefel aelwydydd neu unigolion yn eu galluogi.
Credyd delwedd: Teamjackson trwy iStock