Mae ein hastudiaethau blaenorol sy’n archwilio’r amrywiad mewn mynediad at gyfleusterau chwaraeon mewn perthynas â phatrymau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru wedi’u seilio ar dybiaeth mai teithio preifat yw’r dull trafnidiaeth a ddefnyddir. Rydym bellach yn cynnwys pellteroedd ac amseroedd teithio ar gyfer dulliau trafnidiaeth eraill fel rhan o’n cyfrifiadau hygyrchedd. Mae’r rhain yn deillio o archwiliad o ffynonellau data agored, megis amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus a data’r rhwydwaith ffyrdd, gan ganiatáu i’n hymchwil ystyried canlyniadau mabwysiadu dulliau teithio amgen gydag ystod eang o fathau o gyfleusterau.
Daeth hygyrchedd daearyddol i’r amlwg yn ystod y pandemig, pan ymddengys fod cau caeau, canolfannau hamdden a phyllau nofio dros dro wedi arwain at gyfleoedd cyfyngedig i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn rhai cymdogaethau. Ers hynny, mae adroddiad gan Bwyllgor Senedd Cymru wedi amlygu pryderon ynghylch absenoldeb cyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol a mynediad at ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn rhai o’r cymunedau yng Nghymru sydd â’r cyfraddau cyfranogiad isaf mewn chwaraeon. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i ymchwiliad y Pwyllgor, tynnodd unigolion a oedd yn cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau chwaraeon sylw at bwysigrwydd daearyddiaeth a bod diffyg unrhyw fodd o gyrraedd cyfleusterau mewn sawl rhan o Gymru yn gwaethygu’r rhwystrau ehangach sy’n wynebu unigolion o ran eu mynediad at gyfleoedd ymarfer corff.
Fodd bynnag, mae pryderon o’r fath yn rhagflaenu’r pandemig ac yn amlygu sut y gall mynediad anghyfartal at gyfleusterau o ansawdd uchel i’r rhai sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad ddylanwadu ar lefelau cyfranogiad. Ar yr un pryd, mae canfyddiadau arolwg diweddar gan Chwaraeon Cymru o lefelau gweithgaredd ymhlith plant ysgol wedi dangos gostyngiad yn nifer y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu, a hefyd bod y gwahaniaethau rhwng lefelau cyfranogiad disgyblion sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig mewn chwaraeon wedi’u trefnu yn ehangu ers 2018. Mae’n bosib bod gwahaniaethau o’r fath yn waeth yn yr ardaloedd hynny lle nad oes opsiynau trafnidiaeth fforddiadwy.
Yn ein hastudiaeth ddiweddaraf, rydym wedi cyfyngu ein diffiniad o deithio llesol i gerdded a beicio ond rydym yn cydnabod y diffiniadau ehangach o ddulliau llesol sy’n ymestyn i gynnwys unrhyw fath o “deithio lle mae ymdrech gorfforol barhaus y teithiwr yn cyfrannu’n uniongyrchol at ei symudiad”. Datblygwyd offer archwilio seiliedig ar GIS i ganiatáu i ddulliau cerdded a beicio gael eu cynnwys ochr yn ochr â thrafnidiaeth breifat a chyhoeddus er mwyn archwilio patrymau darpariaeth gofodol. Cafodd mynediad ei nodi a’i ddadansoddi gan ddefnyddio isocronau (polygonau yn dangos yr ardaloedd hynny y tybir eu bod yn gyraeddadwy o fan cychwyn penodol o fewn amser teithio penodol) a gafodd eu creu’n annibynnol ar gyfer pob dull teithio (Ffigur 1).
Ffigur 1: Darlun o isocronau amrywiol sy’n gysylltiedig â dulliau teithio amgen.
Drwy gyfrifo amseroedd teithio i amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon ar gyfer dulliau teithio amgen, nod yr ymchwil hwn fu mesur hygyrchedd ar raddfa genedlaethol a lleol drwy ddefnyddio set ddata o rwydweithiau trafnidiaeth addas a pheiriant llwybro cysylltiedig. Lluniwyd mapiau i ddangos sut mae’r dull trafnidiaeth a ddewisir yn cyfrannu at amrywiadau daearyddol o ran mynediad; er enghraifft, yn Ffigur 2 dangosir y mynediad posib i gampfeydd/ystafelloedd ffitrwydd yn rhanbarthau Gogledd a De Cymru gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (bws a thrên), teithio llesol (beicio), a thrafnidiaeth breifat (car).
Ffigur 2: Cymariaethau o gyfran y boblogaeth mewn ardal gynnyrch ehangach haen is (LSOA) a nodwyd fel rhai sy’n gallu cyrraedd campfa/ystafell ffitrwydd o fewn 20 munud o deithio drwy ddulliau trafnidiaeth amgen.
Gallai mapiau fel y rhain gael eu defnyddio gan sefydliadau chwaraeon i gynllunio lefelau darpariaeth mewn perthynas â’r galw posib.
Mae pryderon gwirioneddol y gallai gwahaniaethau daearyddol ac economaidd-gymdeithasol o ran mynediad ddwysáu os bydd yr argyfwng costau byw a chostau ynni cynyddol yn arwain at y posibilrwydd o gau cyfleusterau megis pyllau nofio a chanolfannau hamdden. Amlygir pwysau o’r fath mewn adroddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar effaith costau uwch ar ddiwylliant a chwaraeon, a’r tebygolrwydd naill ai o weld gostyngiad mewn oriau agor neu gau lleoliadau’n barhaol, ac effaith hynny ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.
Gallai’r gwaith o fonitro effaith newidiadau o’r fath ar batrymau darpariaeth cyfleoedd hamdden ddefnyddio’r mathau o ddulliau a ddisgrifir yma, yn ogystal â thechnegau mwy datblygedig sydd hefyd yn ystyried ‘gofod gweithgaredd’ unigolion sy’n defnyddio cyfleusterau o’r fath. Mae pwysau ar wasanaethau a materion sy’n ymwneud â fforddiadwyedd trafnidiaeth yn symbyliad pellach i fod angen monitro mynediad at gyfleusterau yn barhaus ac i ddeall effeithiau posibl amrywiadau mewn mynediad ar lefelau gweithgaredd corfforol mewn cymunedau difreintiedig.
Gallai ymchwil yn y dyfodol elwa o gasglu mwy o wybodaeth am y cyfleusterau gwirioneddol sy’n cael eu defnyddio, p’un a yw defnyddwyr yn teithio o’r cartref, o’r ysgol, neu o’r gweithle, yr amseroedd a dreulir yn gwneud gweithgarwch corfforol, a’r dulliau teithio a ddefnyddir, a gellir eu hymestyn i ehangu’r ystod o gyfleoedd ymarfer corff sy’n cael eu hastudio. Gellid defnyddio ffynonellau data o’r fath mewn dulliau gofodol sy’n mynd ati’n well i hwyluso cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a rhanddeiliaid eraill i dargedu cymorth sydd wedi’i anelu at gynyddu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gallai cynnwys llwybrau trafnidiaeth llesol a chyhoeddus o fewn modelau o’r fath hefyd helpu i fynd i’r afael â nodau ehangach Llywodraeth Cymru o ran iechyd y cyhoedd a newid hinsawdd.