Tlodi yn yr ystafell ddosbarth: Mae disgyblion ysgol yng Nghymru yn ymwybodol iawn o’r caledi a brofir gan eu cyd-ddisgyblion


Child sitting on park bench, swings in background

Ceir pryder eang a chynyddol y bydd costau byw sydd ar gynnydd yn effeithio’n ddifrifol ar y teuluoedd a’r cymunedau tlotaf y gaeaf hwn. Roedd pethau’n o ddrwg y gaeaf diwethaf. Datgelodd adroddiad gan Sefydliad Bevan fod yn agos i bedwar aelwyd o bob 10 yng Nghymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

Dangosodd Ciplun Tlodi Sefydliad Bevan yr haf hwn fod y sefyllfa wedi dirywio ymhellach fyth wrth i’r nifer o bobl mewn cartrefi ag un neu ddau blentyn sy’n gorfod torri’n ôl ar fwyd i’w plant ddyblu bron iawn. Roedd un teulu ym mhob deg oedd ag un plentyn, ac un teulu ym mhob pump oedd â dau blentyn, yn torri’n ôl ar fwyd i’w plant. Mae’n debygol mai dim ond gwaethygu a wnaiff pethau y gaeaf hwn wrth i gost bwyd a gwresogi barhau i godi’n sydyn.

Mae data o arolwg diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, ein harolwg blynyddol o bobl ifanc yng Nghymru, yn dangos bod lefelau uchel o galedi eisoes yn amlwg iawn mewn ysgolion ac ystafelloedd dosbarth, a bod tlodi’n arwain at newyn eang.

  • Mae bron i draean o ddisgyblion (29.3%) yn ymwybodol bod eu cyd-ddisgyblion yn dod i’r ysgol yn llwglyd.
  • Mae bron i draean (29.0%) hefyd yn ymwybodol o gyd-ddisgyblion sy’n methu fforddio prynu cinio yn yr ysgol.

Mae’r lefelau cynyddol hyn o dlodi’n debygol o fod â chanlyniadau hirdymor – hyd yn oed y tu hwnt i’r argyfwng ariannol presennol.  Fe wyddom fod tlodi’n effeithio’n negyddol ar gyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd a chanlyniadau plant a phobl ifanc. Mae traean (32.3%) o bobl ifanc yn yr arolwg yn gwybod am ddisgyblion sy’n methu fforddio mynd ar deithiau ysgol. Yn ogystal mae dros un rhan o bump (21.7%) o’r disgyblion yn gwybod am gyd-ddisgyblion sy’n methu fforddio prynu gwisg ysgol.

Gofynnon ni hefyd i’n hymatebwyr ifanc beth yn eu barn nhw yw’r peth ‘gwaethaf’ am fod yn dlawd pan fyddwch chi’n ifanc. Mae eu hymatebion yn cwmpasu ystod eang o anawsterau. Yn amlwg soniwyd yn aml am deimlo’n llwglyd, a hefyd methu â chynhesu eich cartref, fforddio dillad cynnes ac ati. Yn ogystal ag amddifadedd materol, soniodd llawer o’r bobl ifanc am effaith seicolegol bod yn dlawd – cael eich bwlio, teimlo eich bod yn cael eich gadael allan a’ch ynysu. Mae ymatebion nodweddiadol yn cynnwys:

Cael eich bwlio am beidio â chael y ‘ffasiwn ddiweddaraf’

Methu mynd i lefydd y tu allan i’r ysgol gyda ffrindiau

Methu uniaethu neu gyd-fynd â ffordd o fyw cyd-ddisgyblion a theimlo embaras am wahodd pobl i’ch cartref

 Soniodd sawl un am y straen a’r pryder o geisio edrych fel pe bai popeth yn iawn:

Esgus bod popeth yn normal

Ddim yn ffitio – teimlo’n wael dros eich rhieni gan eu bod yn gwneud eu gorau drosoch chi

Gorfod cuddio’r ffaith eu bod yn dlawd

Mae’r holl ymatebion hyn yn dangos stigmateiddio parhaus ar y rhai sy’n profi tlodi:

Teimlo’n anobeithiol, ac yn euog

Methu bod fel pobl eraill ac efallai teimlo eich bod yn cael eich barnu ac nad oes croeso i chi

Teimlo’n israddol i bawb arall

Beth ellir ei wneud am y peth?

Mae’r lefelau uchel o dlodi sydd ar gynnydd yng Nghymru yn awgrymu bod angen ymateb polisi ar frys. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ceisio mynd i’r afael â’r her. Er enghraifft, mae’r llywodraeth wedi dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i ysgolion cynradd. Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael prydau ysgol am ddim.

Mae hefyd yn wir fod Llywodraeth Cymru yn fwy hael na’i chymar yn Lloegr o ran darparu prydau ysgol am ddim i bob teulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn hytrach na dim ond y rhai sy’n disgyn o dan drothwy incwm isel iawn. Mae hefyd wedi cytuno i dalu cost prydau bwyd i’r teuluoedd hyn drwy wyliau’r ysgol y gaeaf hwn a’r gwanwyn nesaf. O ran gwisg ysgol, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ymarfer ymgynghori gyda’r bwriad o leihau’r gost i rieni.

Er y bydd y mesurau hyn yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth wrth fynd i’r afael ag amddifadedd materol, efallai y bydd ysgolion am ystyried sut y gallan nhw liniaru rhai o effeithiau seicolegol niweidiol tlodi. Gofynnodd arolwg WISERD i ddisgyblion a oedd materion yn ymwneud â thlodi wedi’u trafod yn eu dosbarthiadau yn ystod y flwyddyn flaenorol. Dywedodd llai na hanner (41.7%) fod tlodi wedi cael ei drafod. Efallai fod angen i ysgolion ddatblygu strategaethau ac adnoddau i fynd i’r afael â’r stigmateiddio sydd ynghlwm â thlodi, yn y gobaith o’i leihau.

 

Llun gan BrianAJackson ar iStock.


Rhannu