Drwgweithredu ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau neu Ymgyrchwyr Digidol?


Un o fy mhrofiadau cyntaf gydag ymgyrchu oedd yn yr ysgol, pan oeddwn yn ymwneud â chyflwyno deiseb yn erbyn y cod gwisg yn 2019. Cafodd y ddeiseb ei dosbarthu ar gyfryngau cymdeithasol fel dolen Google Docs ac yna ei hanfon at y pennaeth. Heb yn wybod i fi, roedd hyn yn digwydd fwyfwy ar draws y wlad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn magu gallu gwleidyddol drwy dwf cyfryngau cymdeithasol, a’u gallu i hyrwyddo deunydd cyfathrebu i ymgyrchwyr. Bellach, mae protestio mewn ysgolion ar gynnydd. Serch hynny, roeddwn am archwilio’r rhesymau y tu ôl i natur hynod negyddol y sylw a roddir i brotestiadau ysgolion yn y papurau newydd. Sut mae gweld pobl ifanc yn wleidyddol weithgar yn cael ei ystyried fel rhywbeth negyddol?

Drwy ddadansoddi’r papurau newydd o 107 o adroddiadau rhwng Medi 2021 a Gorffennaf 2023;

  • Cafodd 84.1% (90) eu hystyried yn niwtral
    • Roedd hyn yn cynnwys papurau newydd yn adrodd y stori’n ffeithiol; yn ymddangos yn bennaf mewn papurau newydd lleol yn unig, heb y rhyddid gwleidyddol i gyhoeddi’n wahanol.
  • Cafodd 15.9% (17) eu hystyried fel ‘gwthio agenda’
    • Roedd hyn yn cynnwys adroddiadau negyddol a phositif, drwy ddefnyddio iaith fel ffordd o bortreadu’r stori mewn goleuni penodol. Yn dilyn dadansoddiad pellach roedd 12 o’r 17 stori o bapurau newydd cenedlaethol. Yn wahanol i bapurau newydd lleol, mae gan y rhai cenedlaethol gynulleidfaoedd mwy, y rhyddid gwleidyddol i gynhyrchu straeon ‘positif’ a ‘negyddol’. Ochr yn ochr â hyn, nhw sydd â’r dylanwad mwyaf ymhlith y gynulleidfa gyda’u sylw helaeth, ac felly’n hollbwysig i’w hastudio yn natblygiad stereoteipiau a chynrychiolaeth yn y cyfryngau print.

O’r 15.9% a oedd yn ‘gwthio agenda’, cafodd nifer syfrdanol o 82.4% eu hystyried fel straeon negyddol. Fe wnaethon ni ystyried papur newydd negyddol fel un a oedd naill ai’n  troseddoli; dangos pobl ifanc fel troseddwyr; yn agored dreisgar neu’n torri’r gyfraith drwy golli ysgol neu’n gwahaniaethu ar sail oed; cael gwared ar rym gwleidyddol plant drwy ddiystyru eu protestiadau fel ymddygiad pobl ifanc yn eu harddegau neu feio cyfryngau cymdeithasol fel tuedd i alluogi protestio yn lle cyfiawnhau pob protest fel stori unigol.

Yn amlwg, pan gaiff protestiadau ysgol eu portreadu yn y cyfryngau torfol, nid ydynt yn canmol ymgyrchu ymhlith pobl ifanc, ond yn ei gondemnio. Caiff plant eu hanwybyddu dro ar ôl tro fel grŵp gwleidyddol dilys, a bellach caiff protestiadau mewn ysgolion eu diystyru fel camymddwyn. Hyd yn oed gyda chyfryngau cymdeithasol yn gorfodi llwybrau newydd a chyffrous ar gyfer ymwneud gwleidyddol, mae ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei felltithio gan bapurau newydd.

O ganlyniad i’r cynnydd mewn ymwneud gwleidyddol ymhlith myfyrwyr, fe wnaeth y gweinidog addysg yn ddiweddar gais i wahardd ffonau mewn ysgolion i wella ymddygiad myfyrwyr. Yn eironig, ymddiswyddodd Williamson o’r senedd yn ddiweddar ar ôl cael ei feirniadu am seiberfwlio un o’i gyfoedion.

Wrth symud ymlaen, dylai’r cyfryngau cymdeithasol gael eu cyfiawnhau fel ffordd annatod o ymgyrchu yn yr oes ddigidol. Mae’n caniatáu globaleiddio materion ymgyrchu, sy’n cael eu darlledu i bob cynulleidfa waeth beth fo’u hoedran. Gyda’r rhai o dan 18 oed wedi’u cyfyngu rhag ymwneud gwleidyddol sifil, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth wleidyddol ifanc yr unigolyn. Yn ogystal, mae’r gallu i drefnu a chynllunio protestiadau yn hawdd drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi pobl ifanc i godi llais yn erbyn camweinyddu cyfiawnder. Pan gafodd y ‘protestiadau Tiktok’ eu beirniadu’n hallt yn y papurau newydd ddechrau 2023 am fod yn ‘duedd a achoswyd gan y cyfryngau torfol’, arweiniodd at godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol ymhlith athrawon mewn ysgolion ac mewn rhai achosion, newidiwyd y rheolau oherwydd y protestiadau.

At ei gilydd, mae ymgyrchu ymhlith pobl ifanc yn aml yn cael ei weld yn annilys gan bapurau newydd, ac o ganlyniad, mae protestiadau ysgolion yn dod o dan hyn. I gymharu’r streicio ymhlith oedolion a’r streicio mewn ysgolion a ddigwyddodd ddechrau 2023; ni chymeradwywyd y naill na’r llall, serch hynny, dywedwyd bod y cyntaf yn ddigwyddiad cyfiawn ond dim ond enghraifft o ddrwgweithredu ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau oedd yr olaf.

Mae’n ymddangos bod ymgorfforiad pobl ifanc o’r cyfryngau cymdeithasol i weithgareddau ymgyrchu wedi creu esgus i bapurau newydd annilysu ymgyrchu ymhlith pobl ifanc. Dydyn nhw ddim yn cael eu cyflyru gan y cyfryngau cymdeithasol; maen nhw’n eu defnyddio i’w  mantais eu hunain.

Blog gan Susie White (Myfyriwr CUROP, Prifysgol Caerdydd)

Delwedd: DanielVilleneuve drwy iStock


Rhannu