Mewn prosiect ymchwil diweddar ar ran Swyddfa Economeg y Gweithlu gofynnwyd i ni ddarparu trosolwg a dealltwriaeth o natur yr amrywiadau yn nhâl gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a sut roedd hyn yn amrywio yn ôl ethnigrwydd. Wrth i’n prosiect ddod i ben, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio – beth rydyn ni wedi’i ddysgu am fylchau cyflog ethnigrwydd yn sector cyhoeddus y DU?
Yn gyffredinol mae’r bwlch cyflog ethnigrwydd yn llai yn y sector cyhoeddus na’r sector preifat
Yn gyffredinol, mae bylchau cyflog ethnigrwydd, sef y gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog fesul awr rhwng gweithwyr, mewn grwpiau ethnig lleiafrifol a phobl wyn a gafodd eu geni yn y DU, yn llai yn y sector cyhoeddus o’i gymharu â’r sector preifat yn y DU. Yn wir, ar ôl ystyried amrywiaeth o nodweddion personol a chysylltiedig â gwaith a allai esbonio bylchau cyflog ethnigrwydd, bylchau cyflog anesboniadwy, mae’r rhan honno y gallem ei phriodoli i anghydraddoldeb cyflog, yn tueddu i fod yn fach ac yn ystadegol ddibwys yn y sector cyhoeddus. Yn hyn o beth, mae ein canfyddiadau’n cyd-fynd ag awgrymiadau bod y sector cyhoeddus ar y blaen i’r sector preifat o ran cydraddoldeb cyflog a byddem yn cefnogi polisi llywodraeth sy’n targedu bylchau cyflog ethnig yn y sector preifat. Serch hynny, rydyn ni’n nodi rhai eithriadau pwysig gyda bylchau cyflog sylweddol heb esboniad yn y sector cyhoeddus ar gyfer dynion Du a menywod Du, Gwyn heb eu geni yn y Du a Tsieineaidd/Asiaidd Arall.
Ffigur 1: Y bwlch cyflog o ran ethnigrwydd rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Noder: mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddadansoddiad o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac maen nhw’n ymdrin â bylchau cyflog anesboniadwy o ran ethnigrwydd yng nghyd-destun dynion.
Mae bylchau cyflog ethnig amrwd yn aml yn gamarweiniol
Mae ein dadansoddiad yn dangos bod bylchau cyflog ethnig amrwd yn aml yn gamarweiniol o ran dangosyddion anghydraddoldeb cyflog. Mae’n bwysig ystyried gwahaniaethau yn nodweddion gweithwyr rhwng grwpiau ethnig, gan gynnwys o ran cymwysterau, lleoliad gwaith a galwedigaeth. Er enghraifft, i ddynion yn y sector cyhoeddus, mae absenoldeb bwlch cyflog ethnig rhwng y grwpiau Du a Gwyn a aned yn y DU yn cuddio bwlch cyflog anesboniadwy sylweddol. Ar y llaw arall, mae tystiolaeth o fylchau cyflog ethnig amrwd negyddol ar gyfer pobl Wyn nad ydynt wedi cael eu geni yn y DU, Indiaidd, Pacistanaidd/Bangladeshaidd a Tsieineaidd/Asiaidd Arall yn adlewyrchu effeithiau cyfansoddiad h.y. gwahaniaethau mewn nodweddion gweithwyr, yn hytrach nag anghydraddoldeb cyflog.
Ffigur 2: Amrywiad yn y bylchau cyflog crai ac anesboniadwy o ran ethnigrwydd rhwng y grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Noder: mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddadansoddiad o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac maen nhw’n ymwneud â dynion yn y sector cyhoeddus.
Mae hi’n bwysig ystyried gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig lleiafrifol
Ceir amrywiaeth sylweddol yn y bylchau cyflog ethnig amrwd ac anesboniadwy rhwng grwpiau ethnig lleiafrifol, hyd yn oed yn y sector cyhoeddus. I ddynion, mae’r bwlch cyflog anesboniadwy o fwy na 15 y cant rhwng grwpiau Du a Gwyn a gafodd eu geni yn y DU yn gwrthgyferbynnu â bwlch ansylweddol (yn ystadegol) o finws 5 y cant rhwng grwpiau Indiaidd a Gwyn a gafodd eu geni yn y DU, lle mae bwlch negyddol yn dangos mantais cyflog yn gymharol i grŵp Gwyn wedi’u geni yn y DU. I fenywod, mae’r bwlch cyflog anesboniadwy o 7 y cant rhwng grwpiau Du a Gwyn a gafodd eu geni yn y DU yn gwrthgyferbynnu â bwlch ansylweddol (yn ystadegol) o 3 y cant rhwng grwpiau Indiaidd a Gwyn a gafodd eu geni yn y DU. Yn hyn o beth, mae ein dadansoddiad yn cadarnhau pwysigrwydd ystyried gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig lleiafrifol.
Dywedodd yr Athro O’Leary: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu’r dadansoddiad cyntaf o fylchau cyflog ethnigrwydd yn sector cyhoeddus y DU ac ar gyfer y galwedigaethau hynny sy’n dod o dan y Cyrff Adolygu Cyflogau, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn llywio’r Cyrff Adolygu Cyflogau sy’n gwneud argymhellion ynghylch cyflogau 2.5 miliwn o weithwyr, neu tua 45% o weithwyr y sector cyhoeddus.”
Dywedodd yr Athro Drinkwater: “Er bod ein canfyddiadau’n gyffredinol yn awgrymu patrwm mwy cadarnhaol yn y sector cyhoeddus na’r sector preifat, mae’n bwysig parhau i fonitro bylchau cyflog ethnig yng ngoleuni effaith bosibl COVID-19 a newidiadau mewn mudo sy’n deillio o’r DU yn gadael yr UE”.