Yn ôl arolwg rhyngwladol, mae llesiant goddrychol plant Cymru yn ystod y pandemig yn is na’r cyfartaledd


Yn fy mlogiau blaenorol ym mhrosiect Bydoedd Plant, edrychon ni ar effaith y pandemig ar lesiant plant Cymru mewn perthynas â’r ysgol ac a ydyn nhw’n byw mewn ardaloedd trefol neu wledig yng Nghymru. Ar gyfer y drydedd ran hon, yr olaf, rydym bellach yn troi ein sylw at y modd y mae lefel gyffredinol llesiant goddrychol plant yng Nghymru yn cymharu â lefel y gwledydd eraill a gymerodd ran, gan ganolbwyntio’n benodol ar y naw gwlad Ewropeaidd.

Mae prosiect Bydoedd Plant yn astudiaeth ryngwladol o lesiant plant a fu’n holi 23,803 o blant mewn 20 gwlad rhwng 2020 a 2021, ac sydd wedi datgelu dirywiad mewn llesiant goddrychol yn ystod pandemig Covid-19. Cymerodd Cymru ran yn yr astudiaeth yn 2018 (Ton 3) a 2021 (ton Covid-19). Cynhaliodd y tîm o ymchwilwyr o WISERD arolwg o 691 o blant o bob cwr o Gymru am eu hapusrwydd, eu boddhad a’u llesiant seicolegol, a sut yr effeithiwyd ar eu bywydau gan gyfyngiadau Covid-19.

Beth ddysgon ni?

Plant yng Nghymru oedd â rhai o’r lefelau isaf o lesiant goddrychol (SWB) ymhlith y naw gwlad Ewropeaidd a holwyd. Yn gyffredinol, y sgôr ar gyfer Cymru oedd 7.8, ar raddfa yn amrywio o 0 i 10, gyda 10 yn cynrychioli’r llesiant gorau y gellid ei ddychmygu. Roedd hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer pob un o’r 20 gwlad a gafodd eu holi gan brosiect Bydoedd Plant (7.96), a’r ail isaf ymhlith y naw gwlad Ewropeaidd a gafodd eu holi, lle roedd y cyfartaledd yn 8.3.

Canfu arolwg 2021 ostyngiad cyffredinol pwysig yn llesiant goddrychol plant. Gostyngodd sgôr cyfartalog SWB ar gyfer y naw gwlad Ewropeaidd a fu’n rhan o ddwy don yr arolwg o 8.8 yn 2018 i 8.3 yn 2021. Nid oedd llawer o wahaniaethau rhwng merched a bechgyn yn y rhan fwyaf o’r gwledydd yn yr arolwg, ond yng Nghymru, roedd gan ferched sgoriau SWB 0.7 yn is na bechgyn.

Roedd y gwahaniaeth yn llesiant goddrychol plant ar draws y naw gwlad Ewropeaidd yn yr arolwg yn amrywiol, nid yn unig pan ystyriwyd data ton Covid-19, ond hefyd pan gymharwyd data ton 3 (2018 a chyn-COVID) a data ton Covid-19. Roedd y gwahaniaethau rhwng y ddwy don yn fwy amlwg yn yr Almaen, Sbaen a Gwlad Belg, tra bod Cymru yn dangos gostyngiad a oedd yn cyfateb i’r gostyngiad cyfartalog ar gyfer holl wledydd Ewrop (gweler Ffigur 1).

Ffigur 1 — SWB plant yn ystod pandemig Covid-19 a’r newid ers 2018

 

Amser sgrin yn ystod y pandemig

Amharodd cyfyngiadau pandemig Covid-19 ar ryddid plant i symud a chyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, gan eu harwain i fod yn llai egnïol ac yn fwy tebygol o dreulio mwy o amser o flaen sgrin na chyn y pandemig.

Yng Nghymru, dywedodd 65% o’r plant yn yr arolwg eu bod yn treulio amser ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd (60% cyn y pandemig), tra dywedodd 50% eu bod yn chwarae gemau ar-lein bob dydd (46% cyn y pandemig). Mewn cymhariaeth, dim ond 25% o blant a nododd eu bod yn chwarae neu’n treulio amser y tu allan bob dydd (35% cyn y pandemig). Gellid cymharu’r gwahaniaethau hyn dros amser â rhai a gafwyd yn y gwledydd eraill yn yr arolwg, sy’n dangos, yn ystod pandemig Covid-19, bod amser sgrin plant wedi cynyddu oherwydd dysgu o bell a chyfleoedd cyfyngedig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb.

Er bod amser sgrin yn fodd i gadw mewn cysylltiad, yn ogystal â chyfrwng dysgu ac adloniant, cafodd effaith negyddol o bosibl hefyd trwy gynyddu amlygiad i newyddion a gwybodaeth am y pandemig.  Gallai hyn fod wedi cynyddu straen a phryder i blant a chyfrannu at lefelau is o lesiant.  Mae’r gostyngiad yn yr amser a dreulir y tu allan hefyd yn peri pryder o ran iechyd corfforol plant, yn enwedig gan fod gan blant yng Nghymru lefelau isel o weithgarwch corfforol hyd yn oed cyn y pandemig.

Boddhad yn yr ysgol, teulu a ffrindiau

Fel y gwelsom yn 2018 (Ton 3), yr ysgol yw’r rhan o’u bywyd lle roedd pob plentyn yn lleiaf bodlon. Yn ystod pandemig Covid-19, nododd plant lefelau is o foddhad yn achos rhannau eraill o’u bywydau hefyd – teulu a ffrindiau. Yng Nghymru, gostyngodd boddhad disgyblion o ran yr hyn roedden nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol o 7.4 i 5.9, tra bod y gostyngiad cyfartalog cyffredinol o 8.0 i 6.7 (ar raddfa 10 pwynt).

Mae dysgu o bell, polisïau cadw pellter cymdeithasol, a chau ysgolion wedi tarfu ar systemau addysg traddodiadol, gan ynysu disgyblion oddi wrth eu cyfoedion ac arwain at deimladau o unigrwydd, straen a phryder. Yn wir, roedd fel petai’r data’n awgrymu, er nad oedd dysgu o bell yn efelychu dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn llwyddiannus, ei fod wedi darparu rhywfaint o ddilyniant yn ystod argyfwng. Mae angen mwy o ymchwil yn y maes hwn i benderfynu beth weithiodd a beth na fu’n llwyddiannus pan oedd gofyn i athrawon drosi eu cwricwla yn adnodd ar-lein.

Beth nesaf?

Dylid ymchwilio ymhellach i’r canlyniadau ar gyfer Cymru er mwyn deall yn well y ffactorau sy’n arwain at lefelau cymharol isel o foddhad a llesiant o gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill.

Mae’r adroddiad rhyngwladol llawn sy’n cynnwys atebion gan ychydig dros 23,800 o blant mewn 20 o wahanol wledydd bellach ar gael.

Darllenwch yr adroddiad llawn ar y canlyniadau ar gyfer Cymru.

 

Ymwadiad

Daw’r data a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn o brosiect Atodiad Covid-19 Bydoedd Plant: Arolwg rhyngwladol o fywydau a llesiant plant (www.isciweb.org). Barn yr awdur a fynegir yma. Nid dyma farn ISCWeB o reidrwydd.

 

Credyd delwedd: Georgijevic trwy iStock


Rhannu