Yr iaith Gymraeg a hunaniaeth
Mae Astudiaeth Aml-garfan WISERD 2022 o blant ysgolion uwchradd ledled Cymru yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar agweddau disgyblion tuag at y Gymraeg. Fel y disgwylid, mae’r canlyniadau yn amrywio yn ôl cyfrwng yr ysgol wrth i’r disgyblion ystyried os yw’r Gymraeg yn rhan o’u hunaniaeth Gymreig.
Mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn llawer llai tebygol o deimlo cysylltiad â’r iaith, gyda 54.5% yn dweud nad yw’n rhan o’u hunaniaeth o gwbl. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, ar y llaw arall, yn dweud bod yr iaith o leiaf yn rhyw ran o’u hunaniaeth bersonol (89%) i ryw raddau.
Dirywiad dros amser mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Wrth gymharu barn disgyblion am bwysigrwydd dysgu Cymraeg dros amser, mae’r tueddiadau hefyd wedi’u rhannu’n drawiadol yn ôl cyfrwng ysgol, sy’n gyson â’u diffyg cysylltiad â’r iaith. Fodd bynnag, canfu ein hastudiaeth fod yr ymatebion i’r cwestiynau ‘Pa mor bwysig yw hi i chi (allu) siarad Cymraeg’ a ‘Pha mor bwysig yw hi i chi (barhau i) ddysgu’r Gymraeg’ fod disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru bellach yn gweld dysgu a siarad Cymraeg yn llawer llai pwysig nag yr oeddent, tra nad oes llawer o newid wedi bod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.
Er yr agweddau negyddol, mae’n ymddangos bod disgyblion yn cysylltu’r Gymraeg gyda chanlyniadau cadarnhaol, hyd yn oed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (er bod y daliadau ychydig yn llai cryf). Mae 58% o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn credu bod siarad Cymraeg o gymorth wrth ddod o hyd i swydd, er bod mwy o amrywiaeth mewn safbwyntiau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Mae’r canlyniadau’n debyg ar gyfer “Ydy’r Gymraeg yn helpu pobl i ddysgu iaith arall”, ond nid ydynt yn ymestyn i feysydd bywyd yng Nghymru gan gynnwys “ffitio i mewn yn fwy yn y gwaith” neu “mewn addysg uwch”. Er bod disgyblion ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn teimlo bod gallu’r Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar eu opsiynau i’r dyfodol, mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn fwy rhanedig ar y mater.
Diffyg hyder i ddysgu
Ar y cyfan, mae disgyblion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn hyderus yn siarad Cymraeg (71%), ond mae 3 o bob 5 yn nodi diffyg hyder mewn lleoliadau dosbarth. Yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Saesneg – lle mae hyder yn is, i lawer, yr ystafell ddosbarth yw’r unig amgylchedd lle maent yn ymgysylltu â’r Gymraeg.
Diffyg cymhelliant
Mae disgyblion sydd eisoes yn siarad Cymraeg yn gytûn â’r cyfleoedd y mae eu sgiliau iaith yn eu fforddio, yn gyffredinol. Ar y llaw arall, mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn teimlo y bydd yn rhaid iddynt adael Cymru er mwyn dod o hyd i waith, sy’n golygu bod eu cymhelliant i siarad Cymraeg yn rhugl i unrhyw radd yn cael ei rwystro ymhellach gan eu teimladau ynghylch eu rhagolygon.
Ynghyd â pheidio uniaethu â’r Gymraeg, sy’n ei gwneud yn llai pwysig iddynt, a diffyg hyder yn eu sgiliau iaith, nid oes gan y mwyafrif o ddisgyblion Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg lawer i ysgogi eu dysgu. Nid yw hyn yn argoeli’n dda i ddyfodol o siaradwyr Cymraeg hyderus o’r ysgolion hyn.