Ym mis Gorffennaf 2017, penododd Llywodraeth Cymru OB3 Research, ar y cyd â WISERD, i gynnal gwerthusiad o Rwydwaith Seren.

Gallwch ei lawrlwytho yma

Comisiynwyd gwerthusiad ffurfiannol a phroses o’r Rhwydwaith Seren i lywio penderfyniadau ynghylch y meini prawf ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc a dylunio darpariaeth y rhaglen ar lefel genedlaethol a lleol.

Amcanion y gwerthusiad oedd:

  • asesu sut mae pob hwb Seren yn gweithredu- ymgysylltu â meini prawf, costau’r rhaglen, lefelau cyfranogiad a’r rhaglen darpariaeth
  • adnabod y rhwystrau a’r galluogwyr darpariaeth ar gyfer hybiau Seren a chyfranogwyr
  • asesu i ba raddau y mae gweithgareddau’r hybiau yn cyfrannu tuag at amcanion y rhwydwaith Seren
  • dylunio methodoleg a gwneud argymhellion ar gyfer cynnal gwerthusiad effaith o’r rhaglen.

Daw’r gwerthusiad i’r casgliad fod menter Rhwydwaith Seren, ers iddi gael ei threialu yn ystod 2015/16, wedi cael ei hymestyn yn llwyddiannus dros gyfnod cymharol fyr er mwyn cynnig rhaglen lawn o ddarpariaeth ledled Cymru erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd 2017/18.