Digwyddiadau

Dylunio Rhaglenni Caffael Cymdeithasol sy’n Seiliedig ar Ddamcaniaeth ac ar Dystiolaeth mewn Adeiladu: Dull Grymuso Galluoedd

Cyflwynir gan Jemma Bridgeman (Prifysgol Caerdydd): Mae caffael cymdeithasol yn cyfeirio at gynhyrchu gwerth cymdeithasol trwy brynu nwyddau a gwasanaethau. Mae ffocws cynyddol ar gaffael cymdeithasol yng Nghymru, yn arbennig gyda Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sydd â’r nod o wella llesiant pobl Cymru drwy gaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol. Mae’r ymchwil hwn…

Hyfforddiant a Chynyddu Adnoddau: Delweddu Data a Dylunio Ffeithluniau

Cyflwynwyd gan Nigel Hawtin Cyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ymarferol mewn grwpiau. Bydd y diwrnod yn cynnwys theori, wedi’i hegluro gyda chymorth enghreifftiau darluniadol, ac ymarferion fel bod y rhai sy’n bresennol yn gallu archwilio syniadau a dysgu drostynt eu hunain Nodau Deall sut i gyfathrebu gwybodaeth a data yn weledol Yn ystod y…

Braint, lle a nawdd: ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i Gymru

Cyflwynir gan Yr Athro Sally Power (Prifysgol Caerdydd) Bydd y seminar hon yn cyflwyno dadansoddiad rhagarweiniol o ddata o brosiect Cymdeithas Sifil WISERD ar ‘Nawdd, yr elît a chysylltiadau pŵer’. Mae’n edrych ar y berthynas gymhleth rhwng cymdeithas sifil, anghydraddoldeb cymdeithasol a chenedligrwydd trwy ystyried yr hyn sy’n cymell pobl elitaidd sy’n byw yng Nghymru…

Cyflwyniad i Ymchwil Agored

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o egwyddorion ac arferion Ymchwil Agored. Byddwn yn archwilio newidiadau sy’n mynd rhagddynt o ran tirwedd y byd academaidd, a’r symud tuag at ymchwil agored yn y byd hwn. Byddwn yn cyflwyno’r egwyddorion FAIR o ran ymchwil agored, yn ogystal â’r manteision a’r pryderon ynghylch arferion ymchwil agored….

Dadansoddi a Delweddu Data ag R

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dadansoddwyr y mae angen iddynt wneud penderfyniadau ar sail data. Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai nad oes ganddynt fawr o brofiad o ddefnyddio R, sef: yr iaith raglennu ystadegol. Mae R yn iaith raglennu ffynhonnell agored bwerus sy’n cael ei defnyddio’n eang ar gyfer gwaith dadansoddi o bob…

Hyfforddiant a Chynyddu Adnoddau: Delweddu Data a Dylunio Ffeithluniau

Cyflwynwyd gan Nigel Hawtin Cyfuniad o gyflwyniadau, trafodaethau ac ymarferion ymarferol mewn grwpiau. Bydd y diwrnod yn cynnwys theori, wedi’i hegluro gyda chymorth enghreifftiau darluniadol, ac ymarferion fel bod y rhai sy’n bresennol yn gallu archwilio syniadau a dysgu drostynt eu hunain Nodau Deall sut i gyfathrebu gwybodaeth a data yn weledol Yn ystod y…

Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85

Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd Fis Mawrth nesaf, byddwn yn cydnabod 40 mlynedd ers streic y glowyr mewn cynhadledd wedi’i threfnu gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Bydd y gynhadledd yn dechrau gyda dangosiad o ffilm o’r enw ‘Breaking Point’, a wnaed ac a fydd yn cael ei chyflwyno gan KJell-Ake Andersson,…

Cynhadledd Flynyddol 2024

“Sut olwg fyddai ar gymdeithas decach? Sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n arwain at anghydraddoldebau hirdymor a pharhaus? Sut gallwn ni gyfrannu at bolisïau sy’n cael effaith a all sicrhau cymdeithas sy’n fwy teg a chynhwysol?.” Bydd cynhadledd WISERD 2024 yn cyflwyno’r cwestiynau hyn ar ystod o feysydd sydd…