Cyflwynir gan Jennifer May Hampton ac Alexandra Sandu

Ochr yn ochr â llawer o effeithiau eraill, gwelodd effaith y pandemig ar arferion addysgol symud tuag at arferion addysgu a dysgu digidol o bell. Roedd Llwyfan Dysgu Digidol Hwb Cymru yn berffaith fel adnodd i fynd i’r afael â’r her unigryw hon. Roedd gan Lab Data Addysg WISERD fynediad unigryw at y data hwn, a oedd yn gysylltiedig â setiau data gweinyddol a gesglir yn rheolaidd, yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ysgolion, a’u hathrawon a’u disgyblion. Gyda dull arhydol, cymharol, bydd y seminar hon yn cyflwyno ac yn trafod patrymau, newidiadau a gwahaniaethau mewn defnydd ar draws blwyddyn academaidd 2019/20, gyda diddordeb arbennig mewn p’un a oedd y newid digidol gorfodol yn gwaethygu neu’n lleihau’r gwahaniaethau a oedd yn bodoli eisoes.

 

 

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom