Mae WISERD ac NCRM yn cynnig hyfforddiant ar y cyd yng Nghymru

Bydd y cwrs hwn dros ddau fore (09:30 – 12:30) Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn dysgu sut i ddefnyddio offeryn Atlas a thempled QGIS i gynhyrchu mapiau. Mae’n debyg y bydd angen i bawb sy’n defnyddio QGIS i gynhyrchu mapiau lunio cyfres o fapiau yn ôl yr un thema ar gyfer amryw ranbarthau neu fannau o ddiddordeb. Y ffordd arferol o wneud hynny yw paratoi templed gwahanol (QGIS Print Layout) ar gyfer pob nodwedd ddaearyddol (rhanbarth, man ac ati) yn y gronfa ddata ond gall y broses honno fod yn un hirwyntog sy’n debygol o arwain at wallau heb gynnig ffordd hawdd o ddiweddaru mapiau yn achos newidiadau. O ddefnyddio dull Atlas, dim ond un cynllun y bydd ei angen ar gyfer pob thema ac, felly, bydd modd cynhyrchu mapiau gwell yn gyflymach mewn rhai amgylchiadau – nid yr ateb delfrydol bob amser mo’r dull hwn ac fe dynnir sylw at ei wendidau yn ystod y sesiwn.

 

Bydd pawb yn y cwrs yn dilyn dwy astudiaeth wahanol i feithrin medrau awtomeiddio mapiau yn ôl QGIS Atlas:

Mapio topograffig sylfaenol o sawl rhanbarth (e.e. plwyfi, ardaloedd)
Awtomeiddio mapio data economaidd-gymdeithasol ar lefel awdurdod lleol (e.e. Mynegai’r Amddifadedd Lluosog)
Bydd y cwrs yn cynnwys:

Cyflwyno QGIS Atlas – sut mae’n gweithio a phryd i’w ddefnyddio
Prosesu data ar gyfer awtomeiddio mapiau (trin priodoleddau, creu priodoleddau newydd)
Trefnu a symboleiddio haenau map
Paratoi templed map Atlas
Defnyddio arwyddion i newid lluniau a thestunau mapiau yn syth
Trafod materion megis amrywio graddfeydd mapiau
Allforio mapiau Atlas o QGIS
Erbyn diwedd y cwrs, dylai fod gan bawb:

y medrau a’r wybodaeth i allu awtomeiddio proses cynhyrchu mapiau yn rhaglen QGIS gan ddefnyddio ei ddata ei hun
Manylion technegol

Mae deunyddiau’r cwrs ar gyfer fersiwn cyfredol (25/02/21) QGIS Long Term Release (fersiwn 3.16). Bydd angen llwytho’r feddalwedd honno i lawr a’i gosod cyn y sesiwn. At hynny, cewch chi ddefnyddio Excel (neu feddalwedd gyffelyb) ar gyfer trin a thrafod data tablau. Gallai fod angen llwytho data i lawr cyn y sesiwn, hefyd – rhoddir manylion ymlaen llaw.

 

Rhagofynion

Mae’r cwrs hwn ar gyfer defnyddwyr newydd ac eithaf profiadol a hoffai ddechrau archwilio rhai o nodweddion mwy datblygedig meddalwedd QGIS. Y gofynion sylfaenol yw bod defnyddwyr eisoes yn gallu:

Creu prosiect QGIS
Ychwanegu haenau data
Llunio haenau data
Defnyddio offer prosesu daearyddol sylfaenol megis ‘clip’
Bydd y gallu i drin a thrafod data sylfaenol yn rhaglen Excel (neu feddalwedd debyg) o fantais, hefyd.