Mae WISERD ac NCRM yn cynnig hyfforddiant ar y cyd yng Nghymru

 

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i egwyddorion cyd-gynhyrchu ac yn cynnig enghreifftiau ymarferol o sut y gellir cymhwyso’r rhain wrth gynnal ymchwil academaidd.

Anelir y cwrs yn bennaf at ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol sydd â diddordeb mewn cyd-gynhyrchu mewn ymchwil, ond sydd heb brofiad o hynny ar hyn o bryd.

 

Bydd y cwrs yn cynnwys:

Diffiniad ac egwyddorion cyd-gynhyrchu
Adeiladu a chynnal perthnasoedd ar gyfer cyd-gynhyrchu
Cyd-gynhyrchu ar waith
Rhannu pŵer a gwneud penderfyniadau i gyd-gynhyrchu ymchwil
Ar-lein drwy Zoom.

 

Trefnir y gweithdy mewn dwy sesiwn:

Sesiwn 1: Deall yr egwyddorion

Pwrpas ac egwyddorion
Diffiniadau a theori
Ymagwedd seiliedig ar werthoedd at gyd-gynhyrchu
Adeiladu a chynnal perthnasoedd
Sesiwn 2: Rhoi pethau ar waith

Cyd-gynhyrchu ar waith
Rhannu pŵer a gwneud penderfyniadau (gwahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar ddeinameg pŵer, datblygu un tîm, offer a thechnegau)
Erbyn diwedd y cwrs, dylai fod pawb yn gallu:

Deall egwyddorion a phwrpas allweddol cyd-gynhyrchu
Trafod ystyriaethau ymarferol rhoi cyd-gynhyrchu ar waith
Cymhwyso’r egwyddorion a’r arferion hyn i’w diddordebau ymchwil eu hunain, er mwyn archwilio potensial dull cyd-gynhyrchu.