Paul SpickerYr Athro Paul Spicker

Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon

Mae’r Athro Paul Spicker yn awdur ac yn sylwebydd ar bolisi cymdeithasol. Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys 22 o lyfrau, sawl adroddiad a gweithiau byrrach a bron i gant o bapurau academaidd. Mae amrywiaeth o waith ar gael ar fynediad agored.

Datblygodd ei astudiaethau o hawliau tai a lles o’i yrfa gynnar; ers hynny, mae ei ymchwil wedi cynnwys astudiaethau sy’n ymwneud â systemau darparu budd-daliadau, gofal hen bobl, cleifion seiciatrig, rheoli tai a strategaeth gwrth-dlodi lleol. Mae’n ymgynghorydd ar les cymdeithasol yn ymarferol, ac wedi gwneud gwaith i ystod o asiantaethau ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ar ôl addysgu ym Mhrifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Dundee, bu’n Gadeirydd Polisi Cyhoeddus Grampian ym Mhrifysgol Robert Gordon rhwng 2001-2015. Mae bellach yn Athro Emeritws RGU.

 

Derek WalkerDerek Walker

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Cyn Brif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth datblygu cydweithredol mwyaf y DU, bu’n gweithio i gefnogi pobl a chymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a newidiodd ffocws y sefydliad i ddatblygiad sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd TUC Cymru ac ef oedd gweithiwr cyntaf Stonewall Cymru.