Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024
Prifysgol De Cymru
Dydd Mercher 3 a dydd Iau 4 Gorffennaf 2024

Thema ein cynhadledd flynyddol yw ‘Anelu at gymdeithas decach’.

Sut olwg fyddai ar gymdeithas decach? Sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n arwain at anghydraddoldebau hirdymor a pharhaus? Sut gallwn ni gyfrannu at bolisïau sy’n cael effaith a all sicrhau cymdeithas decach a mwy cynhwysol?

Bydd cynhadledd WISERD 2024 yn rhoi sylw i’r materion hyn yng nghyd-destun nifer o feysydd sydd â goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer, gan gynnwys:

  • Dinasyddiaeth, hawliau a haenu dinesig
  • Peiriannau ac AI mewn byd anghyfartal
  • Cyfiawnder hinsawdd a pholisïau seiliedig ar leoedd
  • Iaith, hunaniaeth a chynhwysiant
  • Dulliau eraill o fesur tlodi ac anghydraddoldeb
  • Data a dadansoddiad ar gyfer cymdeithas decach
  • Deilliannau addysgol a thrawsnewid cwrs bywyd
  • Gwaith, amodau byw a chyfiawnder cymdeithasol
  • Rhagarddangos systemau cymdeithasol ac economaidd eraill
  • Daearyddiaeth anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
  • Trosedd, cyfiawnder troseddol a chynhwysiant Cymdeithasol

Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod.

Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.

Canllawiau cyflwyno

  1. Rhaid defnyddio’r ffurflen dempled ar gyfer cyflwyno crynodebau.
  2. Dylid cyflwyno pob crynodeb o gynnig neu syniad ar wahân.
  3. Gellir cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  4. Caiff yr holl gyflwyniadau eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu WISERD. Swyddogaeth y pwyllgor yw sicrhau bod rhaglen gytbwys o sesiynau’n cael ei datblygu sy’n seiliedig ar berthnasedd, galw, anghenion ac amseru datblygiad proffesiynol. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion a syniadau, ond hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hymdrechion ac am gymryd diddordeb mewn cefnogi Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024.
  5. Bydd hysbysiadau derbyn yn cael eu cyhoeddi o fis Mawrth 2024 ymlaen ac unwaith y bydd y rhaglen wedi’i chwblhau, bydd cyfranwyr yn cael cadarnhad o ddyddiad ac amser eu sesiwn. Gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno eu deunyddiau sesiwn manwl yn ystod y gwanwyn.
  6. Mae’n bosibl y gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno mewn fformat gwahanol.
  7. Os cewch eich derbyn fel siaradwr, bydd angen i chi gofrestru fel cynrychiolydd yn y ffordd arferol ac i archebu lle yn ystod y cyfnod archebu adar cynnar (byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd pan fydd archeb y gynhadledd yn agor).

 

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch crynodebau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 wedi’i YMESTYN i 9am, dydd Gwener 9 Chwefror.

Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk.

 

Byddwch yn ymwybodol bod y llety sydd ar gael ar gyfer cynhadledd WISERD eleni yn gyfyngedig. A wnewch chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen llety arnoch naill ai ar 2 neu 3 Gorffenaf, a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr aros. Yn anffodus, ni allwn warantu llety i bawb a fydd yn bresennol a byddwn yn darparu hyn ar sail y cyntaf i’r felin.

Edrychwn ymlaen at gael eich papur ac at gynhadledd gyffrous yn 2024.