Prof. Christina Beatty

Yr Athro Christina Beatty

Mae Christina yn Athro Daearyddiaeth Economaidd Gymhwysol yn y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol. O ran cefndir, mae hi’n ystadegydd cymdeithasol sydd â 30 mlynedd a mwy o brofiad o wneud gwaith ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth a pholisïau cymhwysol. Mae gan Christina ddiddordeb arbennig yn y croestoriad rhwng y system nawdd cymdeithasol, polisi’r farchnad lafur, polisi tai, a chynhyrchiant diwydiannau a lleoliadau. Mae ei gwaith ymchwil yn tynnu sylw at ganlyniadau anfwriadol lleol sy’n deillio o benderfyniadau polisi cenedlaethol; effeithiau anghyfartal diwygio’r system les; daearyddiaeth diweithdra cudd; a dynameg hirdymor marchnadoedd llafur lleol mewn gwahanol gyd-destunau daearyddol ac economaidd lleol. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar ddiwydiant Prydain yn yr hen oes, cyn ardaloedd glofaol, a threfi glan môr Prydain.

Mae Christina wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso cenedlaethol ar raddfa fawr a ariennir gan y llywodraeth, sy’n ceisio deall effeithiau gofodol mentrau polisi economaidd-gymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys y Gwerthusiad 10 mlynedd o’r Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau, y gwerthusiad dwy flynedd o Ddiwygio’r System Lwfans Tai Lleol ar gyfer talu Budd-dal Tai yn y sector rhentu preifat ac, ar hyn o bryd, mae’n arwain Adolygiad o Dai â Chymorth ledled Prydain ar ran yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Sheffield Hallam Staff Profile
Twitter: @CBeatty_CRESR, @CRESR_SHU

 

Helen Mary

Helen Mary Jones

Mae gan Helen Mary 40 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys fel aelod o’r Senedd. Bu Helen yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi bod yn brif weithredwr sefydliad gwaith ieuenctid cenedlaethol blaenllaw. Yn y gorffennol, mae Helen Mary wedi dal amrywiaeth o swyddi yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Ar hyn o bryd, mae’n ymgynghorydd materion cyhoeddus, sy’n arwain ymgyrchoedd ar gyfer sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae Helen Mary yn aelod o fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ran Plant yng Nghymru. Mae hi wedi cynnal cyflwyniadau ar hawliau plant ym mhrifysgolion Harvard, Houston ac Austin, yn yr UD. Yn 2017, rhoddwyd Doethuriaeth Er Anrhydedd i Helen Mary gan Brifysgol Abertawe i gydnabod ei chyfraniad at fywyd cyhoeddus, yn enwedig ei gwaith yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.