Yr Athro Irene Hardill
Ymunodd yr Athro Irene Hardill â Northumbria yn 2010 yn Athro Polisi Cyhoeddus. Cyn hynny, bu’n Athro yn yr Ysgol i Raddedigion ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Mae ganddi arbenigedd penodol ym maes gwirfoddoli, yn ogystal â chyd-gynhyrchu gwybodaeth ar y cyd rhwng y sectorau gwirfoddol a chymunedol.
Mae ymchwil ddiweddar Irene wedi cael cefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac mae’n cynnwys arwain prosiect ar ysgogi gweithredu gwirfoddol yn ystod pandemig COVID-19. Yn ddiweddar, mae hi wedi cwblhau gwerthusiad o effaith COVID-19 ar arloesedd methodolegol ar gyfer ESRC.

Yn ogystal â rheoli rhestr hir o brosiectau a gafodd eu hariannu gan ESRC, mae’r Athro Hardill wedi rheoli prosiectau gan noddwyr eraill, gan gynnwys yr Academi Brydeinig, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Age UK, Uchel Gomisiwn Canada a Llywodraeth Ffrainc.
Mae Irene wedi cyhoeddi’n helaeth am newidiadau ym myd gwaith ym mhob ystyr y gair, boed hynny’n waith â thâl neu waith di-dâl, yn y cartref ac yn y gymuned.