Cyflwynir gan Ian Thomas.

Mae sefydliadau yn cynhyrchu data gweinyddol wrth iddynt gyflawni eu gweithrediadau o ddydd i ddydd, er enghraifft canlyniadau arholiadau ysgol neu ddata gofal iechyd. Nod y sesiwn hon yw dangos sut y gellir defnyddio’r data hyn, yn enwedig trwy eu cysylltu â’i gilydd, i gynhyrchu tystiolaeth i helpu i ddod â digartrefedd i ben. Rwy’n defnyddio enghreifftiau o ymchwil a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru gan ddefnyddio data gweinyddol, gan gynnwys dadansoddiad o ddeinameg digartrefedd, gwella ein gallu i fesur graddfa digartrefedd trwy gysylltu data â data iechyd, ac archwilio canlyniadau digartrefedd ar absenoldeb ysgol. . Rwy’n trafod rhai o’r materion a wynebir wrth gynnal y dadansoddiadau hyn, a sut y gellid defnyddio data gweinyddol cyfredol yn well i gynhyrchu mewnwelediadau i ddigartrefedd.

 

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom