Bydd y ddarlith eleni, â’r teitl ‘Julian Tudor Hart – His legacy to Wales and the wider world’, ar ffurf trafodaeth banel, gyda chyfraniadau gan: Prif Weinidog Cymru Yr Athro Mark Drakeford AC, Yr Athro Graham Watt, Yr Athro George Davey Smith, Tina Donnelly, Yr Athro Adrian Edwards, Dr Brian Gibbons a Dr Karen Gully.

Bydd y ddarlith yn y Saesneg.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 5.30 p.m yn Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2 yn Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd. Bydd y ddarlith yn dechrau am 6 p.m yn ystafell -1.64 yn Adeilad Morgannwg.

Crynodeb:

Mae darlith ddiweddaraf y gyfres ddarlithoedd flynyddol hon, sydd bellach yn ei 13eg flwyddyn, yn arbennig o ddwysbigol yn dilyn marwolaeth Dr Julian Tudor Hart ym mis Gorffennaf 2018. Roedd Julian yn feddyg dawnus, a daeth ei waith arloesol fel Meddyg Teulu yng Nghymoedd De Cymru yn yr 1960au i amlygrwydd byd-eang wedi i’w waith blaengar ar ‘Y Gyfraith Ofal Wrthdroadol’ gael ei gyhoeddi yn y Lancet yn 1971. Fe wnaeth y papur hwn, sef o bosib y gydnabyddiaeth gyhoeddus gyntaf i ‘anghyfartaleddau iechyd’, ysbrydoli nifer o bobl i ymgymryd â’r achos a herio’r anghyfartaleddau y gwnaeth ef eu hamlygu y pryd hynny, sy’n parhau hyd heddiw. Fodd bynnag, fe wnaeth ei ymagwedd at ofal sylfaenol ymestyn ymhell tu hwnt i’r frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol y gwnaeth ei harddel drwy gydol ei fywyd, wrth iddo arloesi’r ffordd ar gyfer datblygu a hyrwyddo gwyddoniaeth ac ymchwil ochr yn ochr â gofal iechyd mewn ymarfer cyffredinol.

Ac yntau’n gwyro oddi wrth y fformat darlithio traddodiadol, fe wnaeth Julian awgrymu cael trafodaeth banel er mwyn ‘ysgwyd pethau’, ac mae’r ddarlith eleni yn cynnig cyfle i wneud hynny wrth i gymheiriaid, cydweithwyr a chyfeillion fyfyrio dros yr effaith a gafodd arnynt hwythau, ar ymarfer cyffredinol ac ar gyfeiriad gofal iechyd yng Nghymru a’r tu hwnt yn y dyfodol.