Ymunwch â ni wrth i ni lansio dau lyfr a chynnal trafodaeth gyda’r awduron, ochr yn ochr â sylwadau gan banel o fri fydd yn cynnwys Dr. Arianna Giovannini (Prifysgol De Montfort), Dr. Neil McInroy (CLES) a’r Athro Kevin Morgan (Prifysgol Caerdydd).   Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb, ond byddai o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr academaidd a’r rhai sy’n gweithio ym maes polisi cyhoeddus.

 

Y llyfr cyntaf a drafodir yw’r diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil Gwasg Polisi WISERD:

 

City Regions and Devolution in the UK: The Politics of Representation

Gan David Beel, Martin Jones ac Ian Rees Jones

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘ddinas-ranbarth’ wedi cael ei geni o’r newydd fel canolfan lywodraethu ofodol de facto ar gyfer datblygu economaidd a chymdeithasol.

Mae’r llyfr hwn, sy’n cynnig cyfoeth o astudiaethau achos eglurhaol, yn gwerthuso sut caiff dinas-ranbarthau eu hadeiladu ac yn ystyried sut mae ailstrwythuro llywodraethu yn dylanwadu ar ddaearyddiaeth wleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol datganoli. Trwy adolygu Dinas-Ranbarthau Manceinion Fwyaf, Sheffield, Bae Abertawe, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bargen Twf Gogledd Cymru, mae’r awduron yn rhoi sylw i’r tensiynau a’r cyfleoedd ar gyfer grwpiau elît lleol ac actorion cymdeithas sifil.

Yn seiliedig ar ddeunydd empirig gwreiddiol, ac ar flaen y gad o safbwynt dadleuon academaidd a pholisi, mae’r llyfr hwn yn ymgysylltiad amserol a bywiog â’r newid yn naearyddiaeth datblygu economaidd a chymdeithasol ym Mhrydain.

https://policy.bristoluniversitypress.co.uk/city-regions-and-devolution-in-the-uk

 

Mae’r ail lyfr a drafodir yn cynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr sy’n gweithio ar ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD ar yr economi sylfaenol:

The Political Economy of Industrial Strategy in the UK: From Productivity Problems to Development Dilemmas

Gan Craig Berry, Julie Froud, Tom Barker

 

Oes gan y Deyrnas Unedig strategaeth ddiwydiannol o hyd? Sut dylem ni ddeall yr adnewyddiad yn niddordeb y llywodraeth mewn polisi diwydiannol – a sut mae hynny bellach wedi gwyrdroi i bob golwg – yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Mae’r casgliad hwn o draethodau gan academyddion ac ymarferwyr blaenllaw gan gynnwys Victoria Chick, Kate Bell, Simon Lee, Karel Williams, Susan Himmelweit, Laurie Macfarlane a Ron Martin – ymhlith llawer mwy – yn ystyried effeithiolrwydd polisïau diwydiannol diweddar wrth fynd i’r afael â gwendid economaidd y Deyrnas Unedig.

Trwy gynnig persbectif economi wleidyddol eang ar grefft gwladwriaeth a datblygu yn y Deyrnas Unedig, mae’r llyfr yn canolbwyntio ar sylfeini gwleidyddol a sefydliadol polisi diwydiannol, gwerth arferion economaidd “sylfaenol”, her gwneud cyfalafiaeth yn fwy gwyrdd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, a’r strwythurau llywodraethu ariannol a chorfforaethol newydd sy’n ofynnol i radicaleiddio strategaeth ddiwydiannol.

https://www.agendapub.com/books/130/the-political-economy-of-industrial-strategy-in-the-uk