Mae caledi, datganoli rhagor o bwerau, problemau megis poblogaeth sy’n heneiddio a newid yn yr hinsawdd, a Brexit wrth gwrs, oll yn amodau a digwyddiadau pwysig sy’n arwain at ansicrwydd, ansefydlogrwydd a sefyllfa hollol newydd i bolisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Mae’r materion hyn yn effeithio ar sut a pham y mae polisi’n cael ei wneud ac y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae hyn hefyd yn gyfle amserol sy’n gofyn am fyfyrio a dadansoddi, lle mae llawer o randdeiliaid – gweinidogion, gweision sifil, gwleidyddion, gweithwyr proffesiynol, academyddion a dinasyddion – yn adolygu ac yn ailddiffinio diben a
chanlyniadau polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad un diwrnod hwn, mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dod ag academyddion o bob cyfnod o’u gyrfa ynghyd yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r gymdeithas sifil i drafod y cwestiynau hyn, arferion presennol ac yn y dyfodol, a chyfleoedd ar gyfer gwleidyddiaeth a pholisi yng Nghymru.

Gwahoddir academyddion a rhanddeiliaid polisi eraill yng Nghymru sy’n gwneud gwaith ymchwil am y pynciau hyn i gyflwyno crynodebau erbyn 28 Chwefror 2019. Anfonwch at: UnprecedentedWales2019@caerdydd.ac.uk. Caiff penderfyniadau ar y crynodebau eu cyfleu ar ddechrau mis Mawrth. Anogir myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gyflwyno crynodebau, a chânt eu noddi am fod yn bresennol. Cysylltwch â ni os byddai’n well genych gyflwyno poster yn ystod y sesiwn amser cinio.

Trefnir y diwrnod i dair sesiwn panel â chyflwyniadau papur (10–15 munud i bob cyflwyniad), yna 10–15 munud o drafodaeth gan drafodwr, gyda chwestiynau ac atebion o’r ystafell. Bydd y paneli’n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Gwybodaeth a thystiolaeth yng Nghymru a’u rôl o ran llunio polisi
  • Theorïau a dulliau o ran newid polisi: o safbwynt datganoledig a Chymru
  • Dyfodol polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru

Bydd hefyd sesiwn ‘mewn sgwrs’ amser cinio gyda’r Athro Jo Hunt a Dr Hugh Rawlings, yn trafod Brexit, datganoli pwerau newydd i Gymru, a’r rôl y gall rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru – y llywodraeth, y pwerau deddfwriaethol, y gymdeithas sifil a phrifysgolion – ei chwarae.