A gyflwynir gan Matthew Thompson, Prifysgol Lerpwl

Mae’r seminar hwn yn trin a thrafod hanes cudd Lerpwl o ddewisiadau amgen i dai cyhoeddus. Mae’n gofyn pa wersi y gellir eu dysgu o’r hanes hwn ar gyfer normaleiddio’r mudiadau hyn yn Lerpwl a thu hwnt fel model mwy uniongyrchol ddemocrataidd o ddarpariaeth sylfaenol.  Gan gyfeirio at ei lyfr mynediad agored newydd Reconstructing Public Housing (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2020) mae Matt Thompson yn cymharu dynameg sefydliadol a datblygiad mudiad cydweithredol Lerpwl o’r 1970au gyda’r ymddiriedolaethau tir cymunedol (CLT) a ddaeth i’r amlwg yn y 2010au. Mae’n canolbwyntio ar Dai Cydweithredol Weller Street, cydweithfa adeiladu newydd gyntaf y wlad i gael ei dylunio, ei datblygu, ei pherchnogi a’i rheoli gan ei haelod-breswylwyr, a Granby Four Streets CLT, y prosiect tai neu adfywio trefol cyntaf i ennill Gwobr Turner. Dadleuir bod arbrofion o’r fath yn ‘ddewisiadau amgen o dai ar y cyd’ – hynny yw, mathau o dai nad ydynt yn wladwriaeth ond er hynny yn gyhoeddus; fel rhannau arloesol o’r economi sylfaenol. Mae’r seminar yn ystyried rôl y wladwriaeth a’r ‘cyhoedd’ mewn tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned, ac yn myfyrio ar y goblygiadau ar gyfer democrateiddio’r economi sylfaenol.

 

Ebost wiserd.events@cardiff.ac.uk gyfer y ddolen Zoom