Robin Mann, WISERD

 

Bydd y digwyddiad yn adlewyrchu ar y cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrth gyfweld ansoddol ar-lein. Bydd yn canolbwyntio ar themâu mewn astudiaethau diweddar a phresennol sy’n defnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu i gasglu data cyfweld ansoddol.

Y nod cyffredinol yw rhoi mewnwelediadau a helpu ymchwilwyr sydd o bosibl am orfod symud o gyfweld yn wyneb yn wyneb i gyfweld ar-lein oherwydd Covid19; i ddeall ymhellach a bod yn ymwybodol o heriau a chyfleoedd, cryfderau a chyfyngiadau, ymchwil ansoddol rhithwir; i helpu ymchwilwyr i wneud dewisiadau ynghylch defnyddio technolegau ar-lein/cyfathrebu i gasglu data ansoddol.