Dr Karen Lumsden [Prifysgol Nottingham] fydd yn arwain y digwyddiad hyfforddi ar-lein hwn fydd yn para am hanner dydd dros ddeuddydd. Ei nod yw cyflwyno Ymchwil Gweithredu Cyfranogol (YGC) i’r sawl fydd yn cymryd rhan.

Math o ymchwil yw YGC sy’n cyfuno dau ddull gwahanol, sef ymchwil gyfranogol ac ymchwil sy’n seiliedig ar weithredu. Mae’n ddull ansoddol gwerthfawr oherwydd ei fod yn grymuso ac yn cynnwys unigolion a chymunedau yn y broses ymchwil, yn ogystal â chymryd camau i wella agweddau ar eu bywydau. Nod yr ymchwilwyr sy’n defnyddio YGC yw bod y sawl sy’n cymryd rhan yn gallu gweithredu, a’u bod yn gwneud hynny trwy broses fyfyriol pan fydd y cyfranogwyr yn casglu ac yn dadansoddi data, ac yna’n penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd. Pan fydd y cyfranogwyr a’r ymchwilwyr yn bartneriaid cyfartal yn y broses ymchwil, bydd modd i ffocws a chanlyniadau’r astudiaeth fod yn fwy perthnasol i gymuned benodol. Fodd bynnag, mae YGC hefyd yn wynebu heriau o ran sut mae ymchwilwyr yn llunio ac yn meithrin perthynas â’r sawl sy’n cymryd rhan, sut mae’r data’n cael ei greu a’i ddefnyddio, a phwy sy’n meddu ar y data.

Mae’r hyfforddiant yn darparu sgiliau ynghylch sut i gynnal YGC. Mae’n rhoi cyflwyniad i YGC a’i tharddiad, ei hanes a’i damcaniaethau. Mae’n edrych ar y camau y mae’n rhaid eu dilyn wrth lunio astudiaeth YGC yn ogystal â’r gwaith ymarferol ynghlwm. Drwy wneud ymarferion ymarferol ar y cyd, bydd y cyfranogwyr hefyd yn gallu magu profiad o lunio eu prosiect YGC eu hunain.

Erbyn diwedd y ddwy sesiwn bydd y cyfranogwyr yn gallu:
•    Dangos gwybodaeth o darddiad, hanes a damcaniaethau YGC a sut mae’n ymwneud â dulliau ansoddol.
•    Cynnal eu hastudiaeth YGC eu hunain, gan ddilyn gwahanol ‘gamau’ YGC
•    Bod yn ymwybodol o ystyriaethau moesegol ac ymarferol YGC, gan gynnwys gweithio fel tîm a meithrin perthynas â’r cyfranogwyr a’r cymunedau sy’n rhan o un o astudiaethau YGC.
Bydd y cwrs hwn fydd yn para am hanner diwrnod dros deuddydd o werth i: –
Myfyrwyr PhD, academyddion ac ymchwilwyr cymdeithasol sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil ansoddol, ond sy’n dymuno ymchwilio i ddull YGC, a chynnwys a grymuso unigolion a chymunedau yn eu prosiectau ymchwil.

Bydd deunyddiau ar gyfer y diwrnod ar gael i’r sawl fydd yn cymryd rhan ddau ddiwrnod gwaith cyn y cwrs.

 

Byddwch yn ymwybodol bod y cwrs hwn bellach yn llawn.