Cyflwyniad gan Christala Sophocleous.

Mae gwleidyddion ledled y DU wedi bod yn hael eu canmoliaeth i weithredu gwirfoddol yng nghyd-destun pandemig COVID-19, ac at ddibenion cefnogi’r gwaith hwn, rhoddwyd cyllid arbenigol i’r sector gwirfoddol, yn enwedig gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y gymuned, lle mae llawer o waith y sector gwirfoddol yn cael ei wneud. Fodd bynnag, nid yw gwaith y sector wedi ei rwymo gan ei gapasiti mewnol yn unig. Roedd polisïau cyhoeddus mewn perthynas â gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol cyn y pandemig yn hanfodol i lywio polisïau ac ymateb llywodraethau a sefydliadau gwirfoddol yn ystod y pandemig.  Yn y DU, mae polisïau mewn perthynas â gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol yn gyfrifoldebau a ddatganolwyd, ac mae’r papur cymharol hwn yn ystyried sut mae gwahaniaeth mewn polisïau a llywodraethu ym mhedair ‘cenedl’ y DU wedi dylanwadu ar weithredu gwirfoddol a rhyngweithio gwirfoddol rhwng sectorau a gwladwriaethau yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn ystyried sut y gallai’r profiad hwn lywio dyfodol sector(au) gwirfoddol y DU.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.