Bydd y digwyddiad yn lansio’r adroddiad “Retailing in Wales’ Towns and Cities in 2017” gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a’r Cwmni Data Lleol (LDC) .

Bydd Dr Scott Orford (WISERD) a Chris Fowler (LDC), ynghyd â phanel o arbenigwyr, yn trafod y canfyddion ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Cadeirir y panel gan Carole Green, Gohebydd Busnes ITV Cymru, a bydd yr aelodau’n cynnwys:-

Simon Baston, Loftco; Beverly Owen, Cyfarwyddwr Strategol Lle, Cyngor Dinas Casnewydd; a Dr Eleri Rosier, Ysgol Fusnes, Prifysgol Caerdydd.