6th Foundational Economy Conference - banner with name and date of conference

Rhwng 14 a 16 Medi 2023, byddwn yn croesawu’r 6ed Cynhadledd Economi Sylfaenol yng nghanol Fienna! Yn ystod ein cynhadledd bydd prif siaradwyr a sesiynau llawn, sesiynau cyfochrog yn ogystal â gweithgorau a theithiau cerdded yn y ddinas.

Mae argyfyngau lluosog – rhyfel, cynhesu byd-eang, trychinebau naturiol, newyn ac anghyfiawnder cymdeithasol – yn cynhyrchu mwy o ansicrwydd ymhlith poblogaethau ac yn sbarduno’r chwilio am ddiogelwch a sefydlogrwydd. Mae amddiffyn, cryfhau ac ehangu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol hygyrch, fforddiadwy a chynaliadwy felly yn gonglfaen trawsnewidiad eco-gymdeithasol a all sicrhau anghenion sylfaenol pawb.

Mae’r gynhadledd hon yn dod ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd i ymgysylltu’n feirniadol â’r cysyniad o’r Economi Sylfaenol ac archwilio’r potensial ar gyfer cryfhau ac adeiladu systemau sylfaenol gwell. Un pryder allweddol felly yw rhoi ymagweddau at yr Economi Sylfaenol mewn sgwrs â safbwyntiau ffeministaidd a chroestoriadol ar ddarpariaeth gymdeithasol a thrawsnewid eco-gymdeithasol.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260