A seedling growing

Mae COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar economïau ledled y byd a datgelu natur fregus ein sustemau dibyniaeth sylfaenol. Er bod y pandemig wedi dangos diffygion sustemau gofal iechyd, mae’r cyfnod o dan glo wedi rhoi pwysau trymion ar amryw sectorau sylfaenol eraill megis gofal, addysg a bwyd. Yn ogystal â hynny, mae cynlluniau adfer economi’r byd a’r chwalfa yng nghadwyni cyflenwi’r byd wedi sbarduno eto ymdrechion yn erbyn llymder ac o blaid creu gwerth yn lleol.

All yr anawsterau newydd o ganlyniad i hynny i gyd ddim ond ychwanegu at argyfyngau cyfredol natur a chyfalafiaeth rhyddfrydiaeth gyfoes megis y newid hinsoddol, rhagor o anghydraddoldeb a diffyg llywodraethu cymdeithasol. I leddfu anawsterau o’r fath trwy drawsffurfio cymdeithasol ac ecolegol, mae ar yr economi sylfaenol angen adnewyddu sylweddol a ddaw trwy ffyrdd newydd o feddwl a chydweithredu.

Bydd y gynhadledd hon yn helpu i fwrw ymlaen â’r adnewyddu trwy drafodaeth rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr. Gan fod pwysigrwydd yr economi sylfaenol wedi’i dderbyn, bydd yn canolbwyntio ar amryw ffyrdd o’i hailadeiladu, ei gwella a’i chynnal yn ymateb i’r anawsterau newydd a blaenorol mae’r pandemig wedi’u chwyddo.

Y nod yw ystyried cwestiynau sylfaenol megis sut y gall yr economi sylfaenol helpu pawb i fyw yn dda (a sut y dylen ni astudio hynny) a thrafod faint mae prosiectau diriaethol megis arbrofion cymdeithasol mewn amryw leoedd, trefniadau llywodraethu a mudiadau cymdeithas sifil wedi’i gyflawni a methu â’i gyflawni.

Bydd siaradwyr a thrafodwyr gwadd yn sôn am eu syniadau gwyddonol a’u profiad o’r economi sylfaenol gan ddisgrifio amryw arferion amgen ac arloesol (o Gymru a’r tu hwnt) a allai arwain at ddyfodol mwy cyfiawn a chynaladwy.

Bydd y gynhadledd ar ffurf sesiynau panel dros dridiau, gan drafod prif thema wahanol bob dydd:

  • Dechreuwn ni’r diwrnod cyntaf trwy archwilio cwestiynau sylfaenol am yr hyn sy’n gyfystyr â bywyd da, sut mae’r economi sylfaenol yn ymwneud â hynny a sut y dylen ni gynnal ymchwil iddo a’i drafod.
  • Ar yr ail ddiwrnod, bydd y gynhadledd yn mynd i’r afael â materion ymarferol hanfodol, sef ariannu a llywodraethu’r economi sylfaenol. Gan gynnwys cnoi cil ar y ffordd orau o gynnal gwasanaethau sylfaenol y tu allan i resymeg llymder ariannol, megis sustemau trethu newydd neu wasanaethau sylfaenol cyffredinol. Bydd angen ystyried rôl gwahanol strwythurau gwladol a graddfeydd llywodraethu ynghylch galluogi pobl i reoli eu sustemau sylfaenol yn ddemocrataidd, hefyd.
  • Ar y trydydd diwrnod, bydd trafodaeth am ffyrdd o drawsffurfio sustemau dibyniaeth a lleoedd ar lawr gwlad. Ar wahân i ddisgrifio cyflwr presennol y sustemau hynny, bydd siaradwyr yn cyflwyno arloesi, dulliau ac arbrofion o amryw leoedd ac yn dadansoddi eu gwerth ynghylch adnewyddu’r economi sylfaenol.

Bydd y sesiwn gloi ddydd Iau, 9 Medi (5:00pm i 6:30pm) yn gyflwyniad gan Lee Waters AS a fydd yn sôn am ‘Rhoi’r economi sylfaenol ar waith i fynd i’r afael â’r argyfwng yr hinsawdd’.